Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 29 Mehefin 2021.
Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gyfraniad ef. Dechreuodd drwy ddweud y byddai'n well gan bobl Cymru inni siarad am addysg a'r gwasanaeth iechyd, ac eto i gyd, rwy'n nodi, pan gafodd ef gyfle i ofyn cwestiynau i mi, ei fod ef wedi dewis peidio ag ymdrin â'r naill fater na'r llall. Yn wir, ni allaf i ond nodi, yn ystod yr wythnosau sydd wedi mynd heibio ers yr etholiad erbyn hyn, nad yw wedi dewis gofyn cwestiwn imi am y pandemig byd-eang sy'n parhau i ddal ei afael ar Gymru. Felly, gwneud dewisiadau yr ydym ni i gyd, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn gwneud ei ddewisiadau yntau.
Nid wyf i'n cytuno ag ef o ran ei awgrym cyffredinol na ddylem ni ganolbwyntio cymaint ar faterion cyfansoddiadol. Nid oes gennym ni ddewis ond canolbwyntio arnyn nhw. Rydym ni'n ymdrin â nhw bob dydd. Pan fyddaf i'n cyfarfod, fel y gwnaf i'n wythnosol, â Michael Gove ac arweinwyr y Seneddau eraill yn y DU, rwy'n gweld gyda mwy o fanylder pa mor fawr yw'r straen sydd ar Ogledd Iwerddon, a'r effaith y mae protocol Gogledd Iwerddon yn ei chael ar y berthynas rhwng y Llywodraeth yno a'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
Fe etholwyd Llywodraeth yr Alban ar gynsail refferendwm arall ar annibyniaeth i'r Alban. Pe byddai hynny'n digwydd, fe fyddai'n digwydd yn ystod tymor y Senedd hon. Sut allem ni beidio â mynd i'r afael â'r materion hynny yn y fan hon os ydym ni o ddifrif yn eu cylch nhw? Rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid o ddifrif yn ei ymrwymiad ef i barhad y Deyrnas Unedig. Y pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud y prynhawn yma yw na fyddwn ni'n gallu cyflwyno'r achos hwnnw os na threuliwn ni rywfaint o amser nawr yn ystyried sylwedd yr achos hwnnw. Fe fydd yn rhaid inni berswadio pobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig ei bod er eu lles nhw i barhau i fod yn perthyn i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn ni'n gwneud hynny heb gynnal y dadleuon i'w hargyhoeddi nhw o hynny, ac i'r diben hwnnw y cynlluniwyd ein dogfen ni. Fe'i cynlluniwyd i ddangos bod yna ffordd arall o drefnu'r Deyrnas Unedig a fyddai, yn fy marn i, yn meithrin achos cymhellol dros ei pharhad hi. Ni fyddwch chi'n meithrin yr achos hwnnw drwy ddwyn penderfyniadau oddi ar y Senedd a etholwyd i'w gwneud nhw.
Os na all yr Aelod feddwl am un, gadewch imi roi'r tri hyn iddo. Fe benderfynodd Llywodraeth y DU ein dihysbyddu ni o'r pwerau sydd gennym i lunio cynllun iawndal ar gyfer pysgotwyr yma yng Nghymru. Cafodd hynny ei ddatganoli inni ers dechrau datganoli, ac eto, yn ystod y cyfnod ar ôl Brexit, yn hytrach na'n bod yn gallu cynllunio system a fyddai'n addas i Gymru, ac yna'n defnyddio cyllid i weithredu'r cynllun hwnnw, fe benderfynodd Llywodraeth y DU mai hi sy'n llunio'r cynllun i Gymru, ac roedd hynny'n osgoi unrhyw graffu yma yn y Senedd drwy weithredu felly. Mae Llywodraeth y DU yn aml yn bygwth—roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud hynny dim ond yr wythnos diwethaf—gorfodi porthladd rhydd ar Gymru heb unrhyw gytundeb gan Lywodraeth Cymru. Ac i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud y byddwn ni'n barod i gytuno ar borthladd rhydd ar y telerau a nodir gennym ni yn ein llythyr dyddiedig fis Chwefror y llynedd, llythyr na chafwyd ateb iddo byth.
A dyma'r drydedd enghraifft iddo: anwybyddu barn ddiamwys y Senedd hon o ran confensiwn Sewel—nid dim ond nawr o ran materion gwladol pwysig. Er nad wyf i'n cytuno â defnydd Llywodraeth y DU o gonfensiwn Sewel, gallaf o leiaf ddeall pam mae'n teimlo bod angen iddi wneud felly yn yr amgylchiadau hynny. Ond yn ystod ein hetholiad ni yma, fe welsom enghraifft o fater arferol iawn, pryd y dylid bod wedi gofyn i'r Senedd hon am ei chydsyniad—gan fod hynny'n gyfleus i Lywodraeth y DU fe aeth ati a gweithredu beth bynnag, heb i hynny gael ei roi gerbron yr Aelodau yn y fan hon fel sy'n ofynnol yn y setliad cyfansoddiadol. Dyna ddiffyg parch i'r setliad datganoli heb falio dim, sydd wedi mynd yn nodwedd o feddylfryd Llywodraeth bresennol y DU. Mae hyn yn difrodi datganoli, mae'n difrodi'r Deyrnas Unedig.
Mae yna well ffordd na honno. Mae ein dogfen ni'n ei nodi, nid am fod yr holl atebion gennym eisoes, ond am ein bod ni'n credu mewn dadl sy'n ddifrifol. Fe gefais fy nghalonogi gan rai o'r pethau a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ei ymrwymiad ef i'r ddadl ddifrifol honno. Ni fynegais i'r sylwadau a ailadroddodd ef sawl gwaith yn ei gwestiynau, oherwydd mae pob datganiad y mae Gweinidog yn y Llywodraeth yn ei wneud yn nodi 'gwiriwch yn ôl y traddodi' ar ei ddiwedd. Roedd yr Aelod yn gwirio, ac eto i gyd nid oedd wedi ystyried y byddai'n dilyn yr hyn a ddywedais yn hytrach na dogfen nad oeddwn i wedi ei defnyddio. Fe benderfynais i ymatal rhag defnyddio'r ymadrodd hwnnw am rai o'r rhesymau a amlinellodd ef ei hun.
Gadewch inni obeithio, ar draws y Siambr, y gallwn ni barhau i gael y trafodaethau hollol angenrheidiol hyn—y rhai ohonom ni sy'n credu bod achos i'w ddadlau o blaid y Deyrnas Unedig ond ni ellir gwneud hynny heb ei fod ar sail dyfodol amgen i ni, dyfodol sy'n ystyried ein buddiannau cyfunol ni mewn cymdeithas wirfoddol o genhedloedd—rwy'n dyfynnu Mrs May, ei Brif Weinidog Ceidwadol blaenorol ef—lle'r ydym ni'n aros gyda'n gilydd gan ein bod ni'n gwybod fod yr achos dros wneud hynny mor rymus.