4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:27, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae'n eironig, braidd, pan ddihunais i y bore yma ac edrych ar y penawdau ar WalesOnline a gwefan y BBC, a gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu Senedd Cymru mewn dull ymosodol, ac wrth imi edrych heddiw ar drefn y cyfarfod a gweld nad oes datganiad addysg yma, er gwaethaf, yn amlwg, y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd ddoe gan y Gweinidog addysg, ac nid oes datganiad wedi bod gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â mynd i'r afael ag amseroedd aros. Y rhain yw'r materion mawr y mae pobl yn awyddus i siarad â mi amdanynt, fel Aelod o'r Senedd hon. Rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r materion y dylem ni fod yn canolbwyntio arnynt, yn hytrach nag ar ddadl gyfansoddiadol a thrafodaeth chwe wythnos yn unig ar ôl yr etholiad—neu saith wythnos ar ôl yr etholiad.

Ond, chi yw'r Llywodraeth, a chi sydd â'r hawl i bennu busnes y dydd, ac rydym ni'n trafod ac yn dadlau yn ôl busnes y dydd. Mae'n ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru, dro ar ôl tro, yn sôn am bwerau sydd wedi cael eu dihysbyddu. Fe fyddwn i'n falch o gael gwybod pa bwerau sydd wedi cael eu dwyn oddi ar y sefydliad hwn, yn eich barn chi, wedi refferendwm a dadl Brexit. Nid wyf i fy hunan erioed wedi clywed Gweinidog yn dod ymlaen ac yn dweud beth sydd wedi ei ddwyn.

Fe fyddwn i'n falch o gael deall pam hefyd, yn eich datganiad ysgrifenedig, yr ydych yn sôn am Dorïaid o blith y rhai a ddaeth i mewn i'r Senedd yn 2021 yn chwifio llieiniau sychu llestri. A yw hynny'n helpu'r ddadl mewn gwirionedd? Rwy'n cytuno â chi o ran y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol, ond nid wyf yn cytuno â chi pan gaiff rhywbeth sarhaus ei fynegi fel hyn.

Mae'n rhaid i'r ddadl o blaid yr undeb gael ei mynegi a'i dadlau a'i thrafod trwy'r amser. Y rhaglen frechu, y buddsoddiad o £8.2 biliwn, dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru: mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol yn y ddadl gyfansoddiadol. Ond, nid ydym yn derbyn bod angen datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona. Yn wir, pan edrychodd comisiwn Silk ar hynny, roedd yn dweud y byddai hynny'n costio £100 miliwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gost pe byddai'r pwerau hyn yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae'r ffigur hwnnw bron yn 10 mlwydd oed erbyn hyn?

Rwy'n awyddus i gael dadl adeiladol gyda Llywodraeth Cymru o ran newid cyfansoddiadol a datblygu. Ond, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar faterion ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd, addysg a'r economi yn ein gwlad wych ni o ddydd i ddydd. Rwy'n credu'n angerddol fod yr undeb yn well undeb o fod â Chymru gref yn rhan o'r undeb hwnnw, ac rwy'n credu, fel y dywedais i, fod yna ddadl i'w chael ynghylch y Goruchaf Lys, Tŷ'r Arglwyddi, a chysylltiadau rhynglywodraethol. Ond, ni fydd y Llywodraeth hon yma ym Mae Caerdydd yn llwyddo wrth siarad am chwifio Jac yr Undeb ar lieiniau—neu Dorïaid yn chwifio llieiniau sychu llestri—nodaf na wnaeth y Prif Weinidog ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yn ei anerchiad i'r Senedd heddiw, ond mae yno yn ei ddatganiad ysgrifenedig. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am atebion i'r cwestiynau hyn a ofynnais iddo.

Ond, gallaf gadarnhau, o'r meinciau hyn, ein bod ni'n ymfalchïo yng Nghymru, ein cenedl wych ni, o fewn y Deyrnas Unedig ac yn angerddol yn ei chylch, ac fe fyddwn ni'n dadlau'n gyson o blaid ei lle hi o fewn y Deyrnas Unedig, mewn undeb cryf o genhedloedd, sy'n gyfartal ac yn uchel eu parch. Nid ydym ni o'r farn fod y ddadl y mae Llywodraeth Cymru yn ei herlyn o ran mater cyfiawnder troseddol yn un sy'n gyfredol nac yn un y mae pobl Cymru yn dymuno ei gweld yn digwydd, ond rwy'n credu y gellir gweld cynnydd mewn meysydd eraill.