5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:23, 29 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriodd y Gweinidog at Gyrfa Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at y rhan y byddan nhw'n ei chwarae wrth gyflawni'r warant i bobl ifanc. Sut y bydd e'n sicrhau y byddan nhw'n cael eu cefnogi, y byddan nhw'n cael digon o adnoddau a bod eu staff yn cael eu talu'n briodol i gyflawni'r rhaglen hon?