Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i siarad ynghylch yr hyn y mae rhai gweithredwyr yn ei ddisgrifio fel y 'sector anghofiedig', sef canolfannau addysg awyr agored preswyl Cymru. Mae'r diwydiant werth tua £40 miliwn i'r economi, gyda mwy na 1,700 o bobl yn cael eu cyflogi. Cyn COVID, roedd 44 o ganolfannau yng Nghymru, a dangosodd ffigurau ym mis Mawrth fod o leiaf pump wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae gennyf Antur Bae Morfa, y gwnes i ymweld â hi ddiwedd y mis diwethaf. Gwnaethon nhw ddangos pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r ffaith nad oedd ailagor y sector yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith bod gweddill y DU wedi ailagor, gan roi eu busnesau dan anfantais ddilys, fel yr oedd fy nghyd-Aelod Russell wedi sôn yn gynharach. Mewn e-bost yn dilyn fy ymweliad â Bae Morfa, fe wnaethon nhw ysgrifennu:
'Siaradais i ag ysgol yn Swindon ddoe a oedd i fod i ymweld mewn pythefnos. Maen nhw'n gweddïo y gallan nhw ymweld, i'w plant nhw, dyma fydd eu hunig wyliau, mae'n debyg, tan eu bod yn ddigon hen i adael eu cartrefi yn oedolion. Nid yw rhai wedi gweld y môr erioed nac wedi cerdded ar y tywod, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod y cyfle hwn i'r plant hyn.'
Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y cyfleusterau hyn a'r lleoliadau hyn i addysg plant, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu mewn bywyd yn fwy na'r hyn a gaiff ei addysgu i ni mewn ystafell ddosbarth yn unig. Codais i'r mater hwn gyda'r Gweinidog addysg yn dilyn fy ymweliad, a chefais wybod na fyddai'r busnesau hyn yn ailagor nes i Gymru symud yn llwyr i lefel rhybudd 1. Yn yr adolygiad diwethaf o reoleiddiad COVID, symudodd Cymru nid yn llwyr i lefel rhybudd 1, ond yn hytrach symudiad rhannol, gydag ymlacio mewn rhai meysydd. O ganlyniad, nid oedd addysg awyr agored yn rhan o'r adolygiad hwn, ac roedd y ffaith eu bod yn parhau ar gau yr adeg yma yn eu rhoi o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion cyfatebol yn Lloegr. Collodd y busnesau hyn yng Nghymru ymweliadau ac efallai na fyddan nhw byth yn eu cael yn ôl, wrth i ysgolion benderfynu mynd â'u disgyblion i ganolfannau addysg awyr agored yn Lloegr. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod ysgolion Cymru ar agor, er gwaethaf y ffaith bod y busnesau hyn yn cyflwyno mesurau diogelwch i gynorthwyo ymbellhau cymdeithasol a chaniatáu swigod grwpiau ysgol, ac er gwaethaf yr wyddoniaeth a'r data sy'n dangos bod y risg i'n pobl ifanc yn anhygoel o isel. Roedd yn teimlo, meddai'r busnesau hyn, fod synnwyr cyffredin ar goll pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau COVID hyn.
Er i Lywodraeth Cymru roi eglurhad bythefnos lawn ar ôl y symudiad cychwynnol i lefel 1 a oedd yn caniatáu i ysgolion cynradd ymweld â'r canolfannau awyr agored preswyl hyn ar yr unfed ar hugain o'r mis hwn, mae'r penderfyniad hwn wedi'i alw'n niwlog gan y diwydiant, ac yn ôl pob golwg nid yw'n cyd-fynd â gweddill y DU. Er y gallai fod yn hawdd meddwl bod y materion hyn ar gyfer y sector hwn bellach wedi'u datrys, gan eu bod wedi gallu ailagor i ysgolion cynradd, nid yw hynny'n wir.
Gweinidog, rwy'n eich annog chi, os gwelwch yn dda, i wneud mwy o waith i egluro'r rheolau ar gyfer y busnesau hyn i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â busnesau eraill ledled y DU fel nad ydyn nhw o dan anfantais mwyach, a hefyd, gan fod y busnesau hyn wedi'u cau am fwy o amser na busnesau cyfatebol yn Lloegr, eich bod chi'n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet i sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth ariannol priodol. Diolch.