8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:51, 29 Mehefin 2021

Fel y byddwch yn ymwybodol, Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r ganolfan, sydd dim ond nepell o’r Senedd hon, wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach.

Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli adeiladau fodern i reoli llif awyr iach a gwres i greu pa bynnag amodau sy'n cael eu hystyried yn ddiogel. Nid oes gan lawer o leoliadau dan do systemau o'r fath. Ar ben hynny, mae y ganolfan iâ gyda nenfwd a chyfaint aer llawer uwch na'r lleoliadau dan do sydd eisoes ar agor fel sinemâu, canolfannau bowlio ac ati.

A allaf ofyn bod ystyriaeth frys yn cael ei rhoi i’r mater hwn, gan ei fod yn cael effaith andwyol ar bawb sydd yn gysylltiedig â'r ganolfan? Mae’n ymddangos yn anghyson iawn bod ein sglefrwyr iâ ni yn medru teithio i Loegr i hyfforddi mewn canolfannau llawer llai modern, a methu â defnyddio’r un sydd yma yng Nghymru. Diolch.