Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i dreialu dull o ymdrin ag incwm sylfaenol fel ffordd o gefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf. Mae gwaith ar y gweill ac rydym wedi dechrau llunio cynllun peilot i gwmpasu'r gwaith hwn a phennu sut y caiff ei weithredu a'i fesur.