1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru? OQ56695
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i dreialu dull o ymdrin ag incwm sylfaenol fel ffordd o gefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf. Mae gwaith ar y gweill ac rydym wedi dechrau llunio cynllun peilot i gwmpasu'r gwaith hwn a phennu sut y caiff ei weithredu a'i fesur.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Mae adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Universal Basic Income: An Effective Policy for Poverty Reduction', yn dadlau nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, gan beryglu'r gallu i ddarparu gwasanaethau pwysig mewn gofal iechyd ac addysg, gan ychwanegu, a dyfynnaf, nad yw'n
'diwallu anghenion aelwydydd incwm isel sy'n wynebu problemau cymhleth fel dibyniaeth ar gyffuriau, dyledion peryglus, a chwalfa deuluol', a'i fod yn
'ddatgymhelliad mawr i ddod o hyd i waith', ac nad
'yw'n fwy hael i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig na darpariaethau'r Credyd Cynhwysol.'
Yn ogystal, gwyddom hefyd fod astudiaethau'n dangos mai effaith gyfyngedig y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei chael ar ymgysylltiad pobl â'r farchnad lafur at ei gilydd, ac maent hefyd yn gofyn a fyddai cyfradd uwch o incwm sylfaenol cyffredinol mor ddrud fel y byddai'n anodd buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill, megis cost adeiladu tai cymdeithasol newydd a darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus cost isel. Felly, gyda'r dystiolaeth yn pentyrru yn erbyn incwm sylfaenol cyffredinol, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa rai o'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y credwch y bydd angen eu torri er mwyn gallu ei fforddio?
Wel, rwy'n siŵr y bydd Tom Giffard wedi darllen yr adroddiad defnyddiol iawn a llawn gwybodaeth, yn fy marn i, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a lles i bawb. Yn amlwg, mae'n ddyddiau cynnar. Ceir amrywiaeth o safbwyntiau. Rydym yn edrych ar bob un o'r cynlluniau peilot, yn gwrando ar randdeiliaid, ac yn wir, mae wedi'i groesawu'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ein bod yn bwrw ymlaen â'r cynllun peilot hwn. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ymwneud â lleihau tlodi, ond mae hefyd yn ymwneud â rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a chael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles. Ac rydym yn canolbwyntio ar sut y gellir llunio cynllun peilot incwm sylfaenol bach i gefnogi'r rheini sydd â'r angen mwyaf, gan gynnwys, o bosibl, pobl sy'n gadael gofal.
Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod Plaid Cymru yn gefnogol iawn i incwm sylfaenol cyffredinol, ac edrychwn ymlaen at weld y cynnig terfynol gan y Llywodraeth ar y cynllun peilot. Yn gyflym iawn, a yw'r Gweinidog wedi cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod trefniant ar waith fel na fydd unrhyw daliad incwm sylfaenol yn cyfrif yn erbyn unrhyw dderbynwyr a allai hefyd fod yn derbyn credyd cynhwysol? Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno mai'r peth olaf yr hoffem ei weld yn digwydd yw bod y rheini sy'n derbyn incwm sylfaenol yn waeth eu byd yn y pen draw.
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn oherwydd, wrth inni ddatblygu'r cynllun peilot i gyfnod cwmpasu a chamau cynnar, rydym yn canolbwyntio ar sut y gellid llunio'r cynllun peilot i gefnogi'r rheini sydd â'r angen mwyaf, ond gan sicrhau nad yw'r rheini sy'n derbyn budd-daliadau neu daliadau lles yn waeth eu byd o ganlyniad. Felly, yn amlwg, byddwn wedyn yn ymgysylltu, wrth inni gwmpasu'r cynllun peilot, gyda thrafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith. Ond hefyd, rydym wedi dysgu llawer wrth ystyried profiad yr Alban sydd eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu ganddynt gan eu bod eisoes wedi profi hyn o ran treialu incwm sylfaenol cyffredinol yn yr Alban.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn fy mod yn tynnu sylw'r Aelod at y ffaith bod y Senedd, y llynedd mewn gwirionedd, hefyd wedi cymeradwyo a derbyn cynnig—mae gennym Senedd newydd bellach, ond y Senedd ddiwethaf—i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru. Felly, credaf fod cryn dipyn o ddiddordeb yn hyn, ac mae angen inni ei ddatblygu yn awr a gwrando ar ein rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn dysgu o brofiad yr Alban a gwledydd eraill ledled y byd, ein bod yn gwneud y gwaith cymhleth, ac yna gallaf sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol i'r graddau mwyaf posibl, yn fy marn i, gan fod llawer o ddiddordeb trawsbleidiol yn hyn, hyd yn oed gan y cyn-Aelod o'r Senedd, David Melding, sydd wedi ysgrifennu am hyn yn y gorffennol.