Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel rydych chi'n ymwybodol, un o broblemau mawr y system gyfiawnder yng Nghymru yw'r diffyg data penodol ar Gymru. Pan wnaeth HMPPS roi tystiolaeth i'r comisiwn cyfiawnder yn ôl yn y gwanwyn yn 2019, roedden nhw'n dweud bod eu hystadegwyr nhw'n cydweithio ag ystadegwyr Llywodraeth Cymru i edrych ar lefelau aildroseddu.