Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rwyf am droi at y Saesneg i wneud y pwynt nesaf, oherwydd rwyf am ddyfynnu yn union yr hyn a ddywedasant. Aethant ymhellach a dweud bod gweithgor wedi'i sefydlu rhyngddynt hwy a Llywodraeth Cymru
'i edrych ar ddadgyfuno data' yn ein rhan ni o'r system gyfiawnder. Fy nghwestiwn, felly, Weinidog, yw: sut y mae'r gwaith pwysig hwnnw ar ddadgyfuno data yn mynd yn y rhan bwysig honno o'r system gyfiawnder er mwyn cael data sy'n benodol i Gymru? Diolch.