Tlodi Plant yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:57, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ddydd Llun, cyhoeddais yr adroddiad cynnydd ar y cynllun tlodi plant i weithredu pwyslais ar incwm, ac mae'n dangos bod ein hymgyrch genedlaethol gyntaf i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau wedi arwain at £651,504 yn ychwanegol yn cael ei hawlio gan y rheini sydd â hawl i fudd-daliadau, gan gynnwys aelwydydd yn ne-ddwyrain Cymru.