Tlodi Plant yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:58, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae cyfradd Cymru o dlodi plant yn uwch yn awr nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Rwy'n poeni ein bod wedi arfer cymaint â chlywed y ffigur hwnnw nes ei fod wedi colli ei rym, felly hoffwn atgoffa'r Siambr mai'r hyn y mae'r ffigur hwnnw—y ffigur un o bob tri phlentyn—yn ei olygu yw bod miloedd o blant yng Nghymru yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Maent yn mynd i'r ysgol, i'w dosbarthiadau, gyda'u boliau'n wag, ond maent hefyd yn gorfod ymdopi â'r pryder o wybod bod eu rhieni o dan straen. Efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu sefyllfa rhag eu ffrindiau, felly nid oes ganddynt unrhyw un i siarad â hwy. Yr hyn rwy'n ei ddweud, Weinidog, yw nad effaith gorfforol yn unig sydd i dlodi plant: nid yw'n ymwneud yn unig â diffyg maeth neu fethu cadw'n gynnes neu'n gyffyrddus, er mor niweidiol yw'r pethau hynny; mae hefyd yn ymwneud â'r straen emosiynol, y bwlio a all ddigwydd a'r effaith y gall tlodi ei chael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem gudd hon?