Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 30 Mehefin 2021.
Weinidog, wrth weithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector drwy gydol y pandemig, cefais brofiad uniongyrchol o'r effeithiau niweidiol y mae COVID wedi'u cael ar deuluoedd y Rhondda. Yn anffodus, mae colli incwm a chostau byw cynyddol wedi golygu bod teuluoedd ac unigolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rwy'n ddiolchgar am y darpariaethau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r teuluoedd hyn, ond mae problem wirioneddol o hyd ynghylch y stigma sy'n gysylltiedig â gofyn am gymorth. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, nid yn unig i helpu i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, ond i annog teuluoedd y mae taer angen cymorth arnynt i ddefnyddio'r darpariaethau sydd ar gael, yn enwedig dros gyfnod gwyliau'r haf?