Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, am y cipolwg pwysig hwnnw ar effaith COVID ar gymunedau, a hefyd y ffyrdd y gwnaethoch ymgysylltu, rwy'n gwybod, fel Aelodau eraill, i rymuso cymunedau a gwirfoddolwyr, sydd wrth gwrs yn cynyddu eu parch yn ogystal â'u gallu. Mae hyn yn ymwneud â hawl—hawl i'r budd-daliadau rydym bellach yn sicrhau eu bod ar gael iddynt, ond mae hefyd yn ymwneud â hawl i fod yn rhan o brosiectau fel rhaglen gwella gwyliau'r haf.