Banc Cymunedol i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:15, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Iawn. Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, hyrwyddwr ac arloeswr arall dros y cynnig o fanc cymunedol, ochr yn ochr â chyn-Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, Ken Skates, a roddodd y fenter hon ar waith, ac mae mor dda ein bod yn bwrw ymlaen â hyn. Gwn pa mor galed y mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy—a Bwcle, credaf fod cyngor y dref wedi ymgyrchu dros fanc cymunedol ym Mwcle. Felly, mae Banc Cambria yn datblygu'r gwaith o gyflwyno ac amseru canghennau, ac rwyf hefyd yn cyfarfod â banciau'r stryd fawr cyn bo hir i drafod materion cyfiawnder cymdeithasol yn sgil cau canghennau banc ledled Cymru gyfan, sy'n destun pryder i bawb yn y Siambr hon.