Banc Cymunedol i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:14, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am ei eiriau caredig—Ken Skates—a hefyd am ei waith fel Gweinidog hyd yma ar y banc cymunedol, a'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn awr, Jane Hutt, am ei hymrwymiad hyd yma? Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn dadlau dros gael banc cymunedol ym Mwcle yn fy etholaeth ers amser maith. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd a wneir ar agor cangen o fanc cymunedol cyntaf Cymru ym Mwcle?