Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 30 Mehefin 2021.
Gwaith Banc Cambria yw hwn, wrth iddynt ddatblygu hyn. Rwy'n falch iawn eu bod wedi ceisio cyfarfod ag Aelodau a phobl allweddol, llefarwyr, ar draws y Siambr. Maent yn edrych yn benodol ar weithio mewn partneriaeth ag undebau credyd, felly gallaf roi enghraifft i chi o ran Undeb Credyd Cambrian yng ngogledd Cymru sy'n ymwneud â hyn. Cynnig ydyw o hyd; mae'n rhagweld banciau cymunedol ledled Cymru yn y dyfodol, ond rwy'n siŵr y bydd hyn o ganlyniad i'n buddsoddiad ni, a ddaeth gan Ken Skates yn flaenorol, i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, yn ogystal â'r rhagolygon ar gyfer lle sydd fwyaf priodol a lle fyddai angen pwynt mynediad at fanc Cambria ar y stryd fawr.