Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Mehefin 2021.
Gan fod cau banciau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru yn digwydd yn rhy gyffredin o lawer, mae'r weledigaeth a gyflwynwyd gan y tîm ym Manc Cambria yn un gyffrous. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, un banc yn unig sydd ar ôl yn etholaeth Ogwr, sy'n debyg i'r hyn a glywsom yn Ne Clwyd hefyd. Ac wrth gwrs, mewn rhai etholaethau maent mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl. Gallai fod defnydd ehangach na banciau'n unig i'r model cymunedol wrth gwrs. A yw'r Gweinidog wedi ystyried sut y gallwn ddefnyddio model Banc Cambria ar gyfer busnesau eraill a arweinir gan y gymuned—ym maes ynni, er enghraifft—a pha gymorth y bydd y Llywodraeth yn ceisio'i ddarparu?