Gwariant ar Gyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:26, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Un o'r pethau rhyfeddaf am ein trefniant datganoli yw bod bron i 40 y cant o gyfanswm y cyllid ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn dod o Gymru, er nad oes gennym reolaeth yn y maes polisi hwn. Os goddefir yr ymadrodd, mae fel cael y gwaethaf o'r ddau fyd. Fel y dywedodd adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru',

'Dylai cyfiawnder fod wrth wraidd y llywodraeth.'

A all y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon am drafodaethau gyda swyddogion cyfatebol yn San Steffan i gywiro'r anghysondeb hwn?