Gwariant ar Gyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:27, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal mewn perthynas â'r anghysondebau hynny, ac yn sicr fy mwriad yw mynd ar drywydd y rheini a chael nifer o gyfarfodydd i archwilio materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder, a materion datganoli plismona yn arbennig hefyd. Mae'r rhain yn faterion sydd wedi'u codi ar y llawr hwn lawer gwaith. Credaf fod datganoli'r heddlu a datganoli cyfiawnder yn anochel, oherwydd mae'r rhesymeg yno. Credaf ei bod yn anffodus, mewn llawer o achosion, ei fod wedi'i droi fel pe bai'n rhyw fath o fater tiriogaethol rywsut, ond mae'r broblem go iawn gyda chyfiawnder a datganoli cyfiawnder yn ymwneud â sut y mae'n rhan annatod o'n polisi cymdeithasol ac economaidd, ein sylfeini cymdeithasol. Mae cyfiawnder yn rhan o hynny, ac mae'n un o'r prif ddulliau o gyflawni'r amcanion cymdeithasol sydd gennym.