Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rydych yn dweud ei bod yn gwbl angenrheidiol rhoi'r pethau hyn ar glawr a chyhoeddi'r ddogfen hon—dogfen nad yw'n annhebyg, wrth gwrs, i rifyn cyntaf y ddogfen a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl. Pam ar y ddaear y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod nawr yn adeg briodol i drafod dyfodol yr undeb, a ninnau newydd ddod drwy gyfnod anodd iawn gyda'r pandemig, mae gennym bobl yn aros—un o bob tri o bobl ar restr aros yn aros dros flwyddyn am eu triniaeth—pan fo gennym blant ysgol yn gorfod dal i fyny â'u haddysg? Onid ydych chi'n credu mai dyma'r pethau y mae pobl Cymru am i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, yn hytrach na siarad am dincera â'r cyfansoddiad, nad yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar eu bywydau o gwbl ar hyn o bryd? Oni chredwch ei bod yn bryd i chi ddechrau rhoi sylw i'r problemau go iawn?