Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:29, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod wedi gwyrdroi'r sefyllfa'n fawr, oherwydd mae pob mater yn 'Diwygio ein Hundeb', y ddogfen sydd wedi'i diweddaru, yn un a godir dro ar ôl tro mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw beth ynddi o gwbl nad yw wedi'i godi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Un o'r rhesymau pam y'i cyhoeddwyd mewn gwirionedd yw oherwydd yr angen llwyr i'w roi ar glawr, a'i roi at ei gilydd yn adlewyrchiad o'r holl faterion a godwyd, materion a godwyd gan Brif Weinidog Cymru, gan Weinidogion eraill, dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, ond na ddenodd fawr iawn o ymateb yn anffodus.