Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 30 Mehefin 2021.
Felly, o'r ateb hwnnw, Weinidog, deallaf eich bod wedi rhannu'r ddogfen â hwy a dim mwy na hynny, yn hytrach na'ch bod wedi cael unrhyw ymgysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU cyn ichi gyhoeddi'r ddogfen honno mewn gwirionedd. A ydych yn derbyn, ar y naill law, na allwch rygnu ymlaen am yr angen am barch cydradd rhwng dwy Lywodraeth pan nad ydych yn rhoi gwybod i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn cyhoeddi cynigion sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig ac yn siarad am eich agenda ar gyfer ei dyfodol? Pam eich bod yn meddwl ei bod yn iawn i chi gyhoeddi dogfennau o'r fath heb unrhyw ymgysylltiad er mai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eu hunain fyddai'r bobl gyntaf i achwyn pe bai Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu dogfen o'r fath, gan awgrymu ei bod yn weithred amharchus? A ydych yn derbyn eich bod yn anghywir i beidio â chael trafodaeth cyn cyhoeddi'r dogfennau hyn ac i beidio ag ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar y mater hwn?