Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rydym yn croesawu'r datganiad hwnnw a'r ffocws mawr ar ymgysylltiad dinesig ehangach â phobl yng Nghymru. Os caf droi, hefyd, at gynnig 20 o'r ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', yr ail argraffiad, mae'n dweud yno,
'Ein barn ni o hyd'— barn Llywodraeth Cymru—
'yw bod angen ystyried diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol o safbwynt y DU gyfan, ond', meddai,
'nid oes ymrwymiad eto gan Lywodraeth y DU ar gyfer y drafodaeth genedlaethol ledled y DU y mae'n amlwg bod ei hangen.'
Felly, a gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut y mae'n gweld y gallai'r gwaith yma yng Nghymru ddylanwadu ar y ddadl gyfansoddiadol ehangach yn y DU? A pha gamau penodol y bydd yn eu cymryd i berswadio Llywodraeth y DU, neu yn absenoldeb partner parod yno am y tro, Seneddau'r DU—gan gynnwys y ddwy siambr yn San Steffan—a'r maeryddiaethau sydd ar gynnydd ledled y DU i adeiladu'r achos hwnnw, fod angen confensiwn cyfansoddiadol ledled y DU yn ogystal â'r gwaith y gellid ei wneud yma yng Nghymru?