2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynigion ar gyfer comisiwn sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ56688
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n gyflym i sefydlu'r comisiwn. Rydym am iddo arwain sgwrs gyda phobl Cymru i ganfod consensws ymysg dinasyddion a chymdeithas ddinesig ynglŷn â datganoli a'r cyfansoddiad. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach am y comisiwn y mis nesaf.
Rydym yn croesawu'r datganiad hwnnw a'r ffocws mawr ar ymgysylltiad dinesig ehangach â phobl yng Nghymru. Os caf droi, hefyd, at gynnig 20 o'r ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', yr ail argraffiad, mae'n dweud yno,
'Ein barn ni o hyd'— barn Llywodraeth Cymru—
'yw bod angen ystyried diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol o safbwynt y DU gyfan, ond', meddai,
'nid oes ymrwymiad eto gan Lywodraeth y DU ar gyfer y drafodaeth genedlaethol ledled y DU y mae'n amlwg bod ei hangen.'
Felly, a gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut y mae'n gweld y gallai'r gwaith yma yng Nghymru ddylanwadu ar y ddadl gyfansoddiadol ehangach yn y DU? A pha gamau penodol y bydd yn eu cymryd i berswadio Llywodraeth y DU, neu yn absenoldeb partner parod yno am y tro, Seneddau'r DU—gan gynnwys y ddwy siambr yn San Steffan—a'r maeryddiaethau sydd ar gynnydd ledled y DU i adeiladu'r achos hwnnw, fod angen confensiwn cyfansoddiadol ledled y DU yn ogystal â'r gwaith y gellid ei wneud yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn ystyrlon hwnnw, a chwestiwn anodd iawn i'w ateb, yn sicr yn yr amser y mae'r Dirprwy Lywydd yn mynd i ganiatáu i mi. Buom yn dadlau ers blynyddoedd lawer am gonfensiwn—mae confensiwn yn fecanwaith ar gyfer dod â'r holl faterion hyn at ei gilydd a phenderfynu ar ddyfodol y DU. Beth yw diben y DU? Sut y dylai fodoli? Beth ddylai ei hegwyddorion sylfaenol fod? A ddylai fodoli, hyd yn oed? Felly, bu dadlau ers amser maith ar fater confensiwn. Un o'r problemau, i ryw raddau, fel rydych wedi nodi, yw bod y cyfle i gael confensiwn o'r fath yn dechrau diflannu, yn enwedig pan fydd gennych bethau'n symud fel y maent yn yr Alban, pan welwch y problemau sydd bellach yn dod i'r amlwg yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â pheth o'r anghytuno sydd wedi digwydd yn Lloegr ei hun hyd yn oed. Y peth cyntaf yw bod yn rhaid cael proses o ymgysylltu parhaus. Rhaid cael proses lle'r ydym yn ceisio ymgysylltu'n barhaus â Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i ymgysylltu mewn ffordd synhwyrol a rhesymegol â Llywodraeth y DU.
Credaf mai'r pwynt sy'n rhaid ichi ei wneud, wrth gwrs, yw, os oes gennych y lefel hon o her o'ch blaen, bydd peidio â mynd i'r afael â hi yn achosi mwy o broblemau, ac mae'r risg o rannu a chwalu'r DU, fel y dywedodd y Prif Weinidog droeon, yn agosach nag y bu erioed yn ystod ei oes, ac mae'n sicr yn agosach nag y bu erioed yn fy oes i. Fel y dywedais, credaf fod yn rhaid inni ffurfio cynghreiriau â'r rheini ym mhob plaid sy'n cydnabod hynny, ac rwy'n weddol hyderus—ac fe wyddoch o'r rhan a chwaraeoch chi yn y fforwm rhyngseneddol yr oeddwn innau hefyd yn rhan ohoni ar y pryd—o faint y cytundeb cyffredinol a geir ar draws y pleidiau, gan gynnwys Ceidwadwyr blaenllaw megis Bernard Jenkin, a oedd yn gadeirydd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol dylanwadol y DU, ac ar draws y gwahanol Seneddau a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd, pan oeddem yn gallu ymgysylltu ag ef, nad yw'r trefniadau presennol yn gweithio, nad ydynt yn addas i'r diben, eu bod yn cael eu gwaethygu yn awr gan y sefyllfa rydym ynddi o ganlyniad i'r newid cyfansoddiadol yn sgil gadael yr UE, ac os nad yw'n addas i'r diben, mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â hynny, a'r cwestiwn yw sut y mae mynd i'r afael â hynny mewn gwirionedd.
Felly, byddwn yn dal i alw am y confensiwn hwnnw, oherwydd mae honno'n ffordd o ddod â phawb at ei gilydd i geisio mynd i'r afael â hyn mewn ffordd resymegol. Ond heb hynny, fe wnawn arwain y gwaith ein hunain o benderfynu ble mae Cymru arni. Yr hyn sy'n rhaid digwydd yng Nghymru yw na ddylai unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol fod yn ddictad gan unrhyw gomisiwn sydd wedi'i leoli yn Llundain neu unrhyw ran arall o'r DU heblaw Cymru. Rhaid inni bennu ein dyfodol ein hunain, ac fel y dywedais, yr wythnos diwethaf rwy'n credu, i mi, mae sofraniaeth wedi newid o'r sefyllfa a oedd gennym pan sefydlwyd datganoli gyntaf. Ar y pryd, datganoli grym i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon a wnaed, ond ers creu deddfwrfeydd, mae sofraniaeth bellach gyda'r bobl a chyda'r Seneddau, ac yn fy marn i, y cysyniad o gyd-sofraniaeth yw'r unig un sydd ag unrhyw hygrededd yn perthyn iddo ac rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn sail i bob diwygiad cyfansoddiadol yn y dyfodol.