Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ond mae ail broblem, onid oes? Nid Llywodraeth y DU yn unig sydd ddim yn gwrando. Nid yw eich Plaid Lafur seneddol eich hun yn gwrando ychwaith. Diflannodd yr ymrwymiad i ddatganoli cyfiawnder o faniffesto 2019; yn 2020, ar ôl cyhoeddi adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder, dywedodd Chris Bryant, mewn dadl yn San Steffan, ei fod yn erbyn datganoli cyfiawnder, ac mae wedi dweud o'r blaen nad yw datganoli yn fater datganoledig; mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid wedi siarad yn erbyn datganoli cyfiawnder yn y gorffennol; mae arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn gwbl dawel ar y mater. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hochr ei hunain, hyd yn oed, i'ch cefnogi gyda'r cynllun hwn?