Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 30 Mehefin 2021.
Wel, rydym yn gweithio ar sail maniffesto Llafur Cymru sydd wedi cael ei gefnogi gan Blaid Lafur Cymru ac sydd wedi'i gymeradwyo mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. Mae Plaid Lafur y DU wedi sefydlu ei chomisiwn ei hun, ac wedi mabwysiadu mandad ar gyfer hynny, sydd, yn fy marn i, yn un o'r safbwyntiau cyfansoddiadol mwyaf radical, yn sicr ers cenedlaethau, ac mae honno'n broses y credaf ei bod yn gadael yr holl opsiynau ar agor ar gyfer diwygio neu'r camau sydd angen eu cymryd yng nghyswllt y materion cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg yn y DU. Felly, byddwn yn bwydo i mewn i hynny. Byddwn yn cyflwyno ein safbwynt ein hunain fel Plaid Lafur Cymru ac mewn perthynas â'r mandad sydd gennym, ac o ran y gwersi a ddysgir o'r sgwrs y byddwn yn ei chael gyda phobl Cymru.