Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn dangos yn glir ymrwymiad y Llywodraeth hon i fwrw ymlaen â'r achos a wnaed gan y comisiwn ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru. Bydd is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder, sydd newydd ei gyfansoddi, yn pennu ein hagenda. Fi fydd cadeirydd y pwyllgor, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 8 Gorffennaf.