Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:01, 30 Mehefin 2021

Diolch yn fawr ichi am yr ateb hwnnw, a dwi'n falch iawn eich bod chi yn cwrdd ar 8 Gorffennaf. Un o'r problemau mawr gafodd ei godi yn y comisiwn cyfiawnder oedd y diffyg cydweithio, efallai, gyda'r system gyfiawnder yng Nghymru, ac argymhelliad clir oedd sefydlu cyngor cyfreithiol Cymru—law council for Wales. Beth sy'n stopio hynny rhag cael ei sefydlu, a phryd gaiff e ei sefydlu? Diolch.