Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn am effaith cardiau adnabod pleidleiswyr a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar yr etholwyr yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru. Mae'n debygol iawn y bydd y camau gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn atal y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig. Dylid osgoi codi rhwystrau diangen o'r fath rhag cymryd rhan yn ein democratiaeth ar bob cyfrif. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai etholiadau fod mor agored, atebol a hygyrch â phosibl, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau na fydd angen cardiau adnabod gyda llun ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yma yng Nghymru? Diolch.