2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
7. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol cael cardiau adnabod gyda llun er mwyn pleidleisio? OQ56691
Rwyf wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU nad yw Llywodraeth Cymru am i gardiau adnabod pleidleiswyr fod yn ofynnol mewn etholiadau datganoledig. Rydym yn pryderu am effaith weithredol bosibl hyn, ynghyd â chynigion eraill Llywodraeth y DU, ar weinyddiaeth a hygyrchedd etholiadau datganoledig, ac ar brofiad pleidleiswyr.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn am effaith cardiau adnabod pleidleiswyr a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar yr etholwyr yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru. Mae'n debygol iawn y bydd y camau gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn atal y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig. Dylid osgoi codi rhwystrau diangen o'r fath rhag cymryd rhan yn ein democratiaeth ar bob cyfrif. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai etholiadau fod mor agored, atebol a hygyrch â phosibl, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau na fydd angen cardiau adnabod gyda llun ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn craff iawn, a chwestiwn pwysig iawn am y Bil etholiadau, sydd newydd gael ei gyhoeddi, rwy'n credu, a ninnau ond newydd weld ei fanylion. Ond rwyf am ddweud bod trafodaethau pedairochrog wedi'u cynnal ar hyn; rwyf wedi ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar hyn, ac mae gennyf gyfarfod dwyochrog pellach cyn bo hir i drafod agweddau ar y ddeddfwriaeth a'i pherthnasedd.
Y peth cyntaf y credaf y byddwn yn ei ddweud yw bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddulliau gwahanol iawn o ymgymryd ag etholiadau. Mae pawb yn dymuno gweld etholiadau rhydd a theg, ond rydym am sicrhau bod yr etholiadau hynny mor agored â phosibl, mor dryloyw â phosibl, mor hygyrch â phosibl. Rydym yn dymuno gweld unrhyw un a hoffai bleidleisio nid yn unig yn gallu pleidleisio mor hawdd â phosibl ac mor deg â phosibl, ond i'w pleidlais gael ei chyfrif, felly rydym yn edrych ar nifer o faterion yn ymwneud â'r system etholiadol. Mae'n rhaid imi ddweud bod ein hymagwedd ni'n arddel hygyrchedd a didwylledd, ac nid wyf yn cytuno â'r ymagwedd sy'n cael ei mabwysiadu gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno cardiau adnabod. Nawr, mae'n ddigon posibl mai'r ensyniad yw y bydd prosesau'r etholiadau seneddol yn wahanol, ei bod yn ddigon posibl y bydd ganddynt broses wahanol. Rwyf am gyflwyno'r dadleuon sydd gennym ynghylch pam na fyddem yn hoffi gweld hynny yng Nghymru. Mae iddo oblygiadau o ran gweinyddu etholiadau yng Nghymru, ond wrth gwrs, mae etholiadau seneddol y DU yn fater a gedwir yn ôl. O ran etholiadau’r Senedd, a'n hetholiadau llywodraeth leol, nid oes gennym unrhyw fwriad o gwbl i gyflwyno neu gefnogi’r cysyniad o gardiau adnabod.
Cardiau adnabod: mae'r rhesymeg drostynt yn ymwneud â mynd i'r afael â thwyll pleidleiswyr. Wel, o ran nifer yr euogfarnau am dwyll pleidleiswyr yn etholiad cyffredinol 2019, cafwyd pedair euogfarn a dau rybuddiad yn y Deyrnas Unedig gyfan. Nid oes unrhyw sail dystiolaethol dros wneud hyn, ac mae'n arwain at un cwestiwn yn unig sef pam ei fod yn cael ei gyflwyno, yn debyg i fesurau a gyflwynir hefyd mewn rhannau o America, sy'n cael eu hyrwyddo yno, ac mae awgrym cryf iawn fod hyn yn ymwneud i raddau mwy ag atal pleidleiswyr na chynnal etholiadau rhydd a theg ac agored. Fel y dywedaf, byddaf yn dadlau achos Llywodraeth Cymru ac yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon a'r Senedd maes o law pan fyddwn yn gwybod mwy.
Weinidog, nid yw profi mai ni yw pwy a ddywedwn ydym ni mor anarferol â hynny, boed er mwyn profi ein hoedran i brynu diod neu dân gwyllt o siop, neu brawf i agor cyfrif banc, neu drwydded yrru i logi car, mae'n rhan o fywyd modern ac yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'i wneud. Os yw'n ddigon da ar gyfer y gweithgareddau hynny, pam ddim ar gyfer rhywbeth mor bwysig â phleidleisio? Weinidog, gwn fod y rheini ar y chwith gwleidyddol yn ystyried hyn yn sarhad ar ein democratiaeth, er mai er mwyn gwarchod a diogelu'r broses ddemocrataidd y caiff cardiau adnabod gyda llun eu hystyried. Os ydych yn erbyn y syniad o bleidleiswyr yn profi pwy ydynt, pa gamau eraill y credwch y dylid eu cymryd i sicrhau cadernid ein proses ddemocrataidd?
Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod wedi gofyn y cwestiwn o chwith, y tu ôl ymlaen. Y cwestiwn yw: os ydych yn dymuno gosod cyfyngiadau a rhwystrau a gwrthbwysau o bob math, a gallech fynd ymhellach o lawer, mae'n rhaid ichi ddweud, 'Wel, mae'n rhaid cael rheswm dros wneud hynny.' Mae pob un ohonom yn dymuno gweld system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Credaf fod gennym system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Felly, ni allaf ond gofyn y cwestiwn: os nad oes sylfaen dystiolaethol dros gyflwyno newid a fydd yn ei gwneud yn anos i bobl bleidleisio, a allai beri rhwystrau ychwanegol i bobl rhag pleidleisio, pam fod hyn yn digwydd?
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Sioned Williams.