Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 30 Mehefin 2021.
Fe wnaeth y gwaith a gynhaliwyd yn ystod y bumed Senedd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd amlygu ystod o fuddiannau yn sgil rhannu swyddi yn y Senedd, gan gynnwys y posibilrwydd o wella amrywiaeth yn ein Senedd. Hefyd, nododd y panel arbenigol a'r pwyllgor yr heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud ag atebolrwydd y bydd angen eu goresgyn er mwyn caniatáu ar gyfer rhannu swyddi ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Byddai cyflwyno trefniadau rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd yn gofyn am newidiadau deddfwriaethol, yn ogystal ag am ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran deall sut byddai cynrychiolydd etholedig yn cyflawni ei rôl.