3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Senedd? OQ56696
Fe wnaeth y gwaith a gynhaliwyd yn ystod y bumed Senedd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd amlygu ystod o fuddiannau yn sgil rhannu swyddi yn y Senedd, gan gynnwys y posibilrwydd o wella amrywiaeth yn ein Senedd. Hefyd, nododd y panel arbenigol a'r pwyllgor yr heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud ag atebolrwydd y bydd angen eu goresgyn er mwyn caniatáu ar gyfer rhannu swyddi ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Byddai cyflwyno trefniadau rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd yn gofyn am newidiadau deddfwriaethol, yn ogystal ag am ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran deall sut byddai cynrychiolydd etholedig yn cyflawni ei rôl.
Diolch. Rydyn ni'n gwybod bod yna lawer o rwystrau sy'n annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, rhag sefyll am swydd etholedig. Gall yr oriau hir fod yn anodd delio â nhw, yn enwedig yn sgil gofynion gofal plant, gofalu neu gyfrifoldebau eraill. Fel dŷch chi wedi sôn, yn ystod tymor diwethaf y Senedd, argymhellodd dau adroddiad y dylid caniatáu rhannu swyddi os eglurwyd hynny yn agored i'r etholwyr, a bod y gost yr un peth â chost AS unigol. Galwodd yr adroddiad gan bwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol am ymrwymiad i gymryd camau deddfwriaethol yn gynnar yn y chweched Senedd i ddiwygio ein deddfwrfa a chryfhau ein democratiaeth yng Nghymru. Sut ydych chi'n gweld yr agenda hon yn cael ei datblygu ar sail drawsbleidiol, a pha fath o amserlenni rydych chi'n eu rhagweld cyn cyflwyno deddfwriaeth?
Diolch am y cwestiwn yna. Mae'r ffaith bod y cwestiwn wedi'i osod, ac ambell i fater yr wythnos yma, wedi ein hatgoffa ni o'r diddordeb sydd yna mewn rhannu swyddi ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth. O edrych nôl ar waith y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol, un o argymhellion y pwyllgor hwnnw oedd i'r chweched Senedd, yn gynnar, fod yn sefydlu grŵp ar draws y pleidiau i edrych ar y camau ymarferol sydd angen eu cymryd i hyrwyddo rhannu swyddi. Mae rhannu swyddi'n gallu golygu rhannu swyddi, wrth gwrs, fel Aelod o'r Senedd, a'r rhwystrau rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw—yn ddeddfwriaethol o ran hynny—a rhai o'r materion byddai angen eu goresgyn, ond wedyn, wrth gwrs, rhannu swyddi fel rydyn ni wedi'i drafod yr wythnos yma eisoes, o ran rhai o'r swyddogaethau o fewn y Senedd lle nad oes angen newidiadau deddfwriaethol ond mae angen ystyriaeth fanwl ar sut mae cyflawni hynny. O ran amserlen, fel roeddech chi'n gofyn, fe wnaeth argymhelliad y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol sôn bod angen cymryd camau cyflym i sefydlu'r grŵp trawsbleidiol yma nawr i edrych ar y camau nesaf. Fe fyddaf i yn trafod ar draws y pleidiau i sicrhau ein bod ni yn edrych ar y camau sydd angen eu gwneud, ac yn gwneud hynny yn gynnar yn ystod y tymor yma.
Mae fy nghwestiwn yn ymwneud ag edrych ar rannu swyddi ar gyfer Aelodau o'r Senedd. Rydych chi, Lywydd, a'r Dirprwy Lywydd, yn rhannu swydd, i bob pwrpas, wrth i chi reoli trafodion y Senedd. A wnaiff y Comisiwn ystyried caniatáu i swyddi eraill, fel Cadeiryddion pwyllgorau a chomisiynwyr, gael eu rhannu? Clywais yr hyn a ddywedasoch yn eich ateb i'r cwestiwn diwethaf, ond credaf fod hyn yn rhywbeth nad oes angen hyd yn oed newid y Rheolau Sefydlog i'w wneud; dim ond rhywbeth y dylem edrych arno efallai, a chael caniatâd i'w brofi. Nid wyf yn gwybod a yw'n mynd i weithio; gallai fod yn drychineb llwyr, ac os felly, gallwch newid yn ôl yn gymharol hawdd. Os mai'r peth cyntaf a wnawn i brofi rhannu swydd yw cael dau unigolyn yn sefyll etholiad, a'i fod yn drychineb, mae gennym bum mlynedd o ddioddef yn sgil y ffaith ei fod yn drychineb.
Diolch am eich sylwadau ar hynny. Rwy'n cytuno. Fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, mae nifer o rolau amrywiol yn y Senedd hon a allai edrych ar sut y gellid eu cyflawni drwy rannu swyddi. Mae rhai o'r rheini, fel y dywedwch, Mike Hedges, o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol, a byddai angen newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn unig, yn ogystal â rhywfaint o eglurder ar y gweithdrefnau dan sylw. Cynigiodd y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol y dylid sefydlu gweithgor yn gynnar yn nhymor y Senedd hon i edrych ar yr amryw agweddau ar rannu swyddi a allai weithio—ac mae angen inni gofio hyn—at ddibenion cynyddu amrywiaeth. Mae hynny'n fy atgoffa, wrth gwrs, wrth ystyried y modd y gwnaethom ethol Cadeiryddion ddoe—ac rwy'n llongyfarch yr holl Gadeiryddion a etholwyd ddoe—roedd dwy ran o dair o'r Cadeiryddion a etholwyd ddoe yn ddynion, a 100 y cant ohonynt yn wyn, ac nid yw hynny'n adlewyrchu Cymru, na'r Senedd hon yn wir, ac felly, mae'n ein hatgoffa sut y mae angen inni weithio i sicrhau ein bod yn hyrwyddo amrywiaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith.