Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 30 Mehefin 2021.
Iawn. Yn olaf, ar fasgiau, Weinidog, dylech fod yn arwain yn genedlaethol ar hynny. Nid yw masgiau mewn ystafelloedd dosbarth yn angenrheidiol mwyach. Nid oes unrhyw effaith ar wahân i'r effaith ar lesiant y plentyn a'r gallu i gyfathrebu yn y dosbarth; mae eich cynghorwyr gwyddonol eich hun wedi dweud eu bod yn gwneud mwy o niwed nag o les. Felly, Weinidog, os gwelwch yn dda, a allwch chi ddod i'r Siambr hon gyda datganiad llawn yn rhoi eglurder? Mae pythefnos ar ôl tan ddiwedd y tymor hwn ac mae angen i athrawon ac ysgolion baratoi ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.