Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn pellach hwnnw. Nid wyf yn cydnabod y darlun dryslyd y mae'n ei ddisgrifio. Yn ein trafodaethau gyda'n partneriaid yn y sector addysg yn uniongyrchol, rydym wedi bod yn glir iawn y byddwn am gael trafodaethau gyda hwy mewn perthynas â datblygiadau wrth iddynt ddigwydd mewn ysgolion, a byddwn bob amser am gael y trafodaethau hynny ymlaen llaw. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn ystod y tymor hwn, ac o ran yr amseru, sef y pwynt y gorffennodd ag ef, fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith yn seiliedig ar y trafodaethau gyda'n partneriaid cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd. Bydd ysgolion yn cael y rhybudd y byddant ei angen er mwyn gallu cyflwyno'r trefniadau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd angen cynllunio ar gyfer gwneud hynny, a byddant yn cael amser i wneud hynny.
Rwy'n falch o'i chlywed yn siarad am lesiant yn ei chwestiwn. Rydym i gyd, ym mhob rhan o'r system ysgolion, wedi ymrwymo i lesiant a chynnydd ein dysgwyr, a rhai o'r ymyriadau a fu ar waith o anghenraid. Soniodd am orchuddion wyneb mewn ysgolion yn ei chwestiwn, a gwyddom fod hynny'n effeithio ar lesiant a phrofiad addysgol pobl ifanc yn yr ysgol, ac felly rydym am sicrhau bod y rheini, yn amlwg, yn cael eu lleihau, yn gyson â lefel y risg. Y gwir bellach yw bod ysgolion yn gwasanaethu gwahanol gymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru, a bydd gwahanol lefelau o drosglwyddiad mewn gwahanol gymunedau. Felly, pan ddywedwn fod angen lleihau'r camau hynny yn gyson â'r risg, mae'r risg honno hefyd yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac felly roedd yr hyn a gyhoeddais ddydd Llun yn ddull gwahanol o weithredu, a fydd yn hwyluso'r defnydd o gyfres o fesurau mewn ysgolion gan adlewyrchu'r risg leol. Ond fel y dywedais hefyd ddydd Llun, nid yw hyn yn rhyw fath o—os caf ei ddisgrifio fel hyn—ryddid di-ben-draw i bawb; nid dyna yw'r bwriad. Bydd fframwaith cenedlaethol yn berthnasol mewn amgylchiadau lleol, a thrafodir y fframwaith hwnnw gyda'n partneriaid dros weddill tymor yr haf, a bydd ysgolion yn gallu cael gafael ar gyngor proffesiynol ar iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan eu timau rheoli digwyddiadau lleol, ac yn y blaen. Felly, bydd set glir iawn o rolau a chyfrifoldebau'n cael ei chyfleu'n glir, a bydd ysgolion yn cael y cymorth a'r arweiniad a'r hyblygrwydd i gael y mesurau sy'n adlewyrchu eu proffil risg lleol.