Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 30 Mehefin 2021.
Gyda phencampwriaeth tennis Wimbledon wedi dechrau'r wythnos hon, rwy'n falch iawn o longyfarch grŵp o drigolion Castell-nedd sydd wedi gwneud gwaith adnewyddu ar gyrtiau tennis y dref. Ac maent wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Tennis Lawnt yn eu gwobrau blynyddol fel un o'r prosiectau tennis cymunedol gorau yn y DU. Tipyn o gamp.