Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Dwi'n ffodus fy mod i'n cynrychioli etholaeth sy'n gyforiog o fywyd gwyllt; meddyliwch am fforestydd glaw Celtaidd Maentwrog, llonyddwch Enlli neu Gors Barfog Cwm Maethlon. Mae'r ardal yn gartref i gasgliad rhyfeddol o fywyd gwyllt, o'r falwen lysnafeddog yn Llyn Tegid i lili'r Wyddfa, ond maen nhw o dan fygythiad.
Dwi am ganolbwyntio’n sydyn ar gyfraniad y cyhoedd a'r sector gwirfoddol, sy'n chwarae eu rhan wrth geisio sicrhau yr amrywiaeth naturiol godidog yma sydd gennym ni. Yn fy etholaeth i, mae Cymdeithas Eryri, sy'n elusen gadwraeth ar gyfer ardal Eryri, yn gweithio ym mhob tywydd i warchod a gwella ardal y parc cenedlaethol. Mae'r gymdeithas yn estyn allan i gydweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, fel awdurdod y parc, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill i weithredu ei rhaglen Caru Eryri. Mae Caru Eryri yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i gario allan y gwaith o glirio sbwriel, cynnal lwybrau a darparu cyngor cyfeillgar i helpu ymwelwyr i gael ymweliad diogel a chyfrifol, gan barchu'r cymunedau a bywyd gwyllt, a hynny ar draws ardal Eryri.
Mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud y gwaith diflino a gwerthfawr yma rhwng mis Ebrill a mis Hydref, gan dderbyn hyfforddiant, offer a chefnogaeth er mwyn medru gwneud eu gwaith. Tu allan i'r misoedd yma, mae'r gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yma yn brysur gyda gwaith megis gwarchod ac adfer gwlypdiroedd, coedlannau a mawnogydd, a rheoli rhywogaethau ymledol. Mae'r fyddin yma o wirfoddolwyr yn cynrychioli miloedd o oriau o weithredu amgylcheddol yn flynyddol. Maen nhw'n gwneud hyn er mwyn gwarchod byd natur a mannau arbennig a'i gwneud hi'n bosib i bobl eraill a chenedlaethau'r dyfodol fwynhau godidogrwydd naturiol yr ardal arbennig yma.
Y rheswm dwi'n sôn yn benodol am Gymdeithas Eryri ydy er mwyn dangos bod y gweithredu sy'n digwydd ar hyn o bryd i warchod natur a bioamrywiaeth yn ddibynnol ar unigolion ac elusennau bach a mawr, lleol a chenedlaethol. Mae miloedd o wirfoddolwyr eraill yn gwneud gwaith tebyg i sefydliadau eraill hefyd, wrth gwrs. Ond fedrwn ni ddim dibynnu ar wirfoddolwyr i roi o'u gwirfodd yn unig. Maen nhw a'r elusennau a chymdeithasau yn y maes, megis Cymdeithas Eryri, yn disgwyl arweiniad cenedlaethol, ac i'r Llywodraeth weithredu hefyd.
Maen nhw'n croesawu'r gweithredu positif, lle mae Cymru'n cynorthwyo i arwain y ffordd, ond yr hyn y mae'r gwirfoddolwyr yma ac eraill am ei weld ydy'r Llywodraeth yn ymrwymo i dargedau clir ar gyfer adfer byd natur a deddfu er mwyn cau'r bwlch o ran rheolaeth amgylcheddol. Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae eu rhan, ond ble mae'r arweiniad? Maen nhw am weld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr hinsawdd ac adfer byd natur. Ac ar ben hyn, yn ogystal â phenawdau a geiriau cynnes, maen nhw am weld tystiolaeth fesuradwy o effeithlonrwydd y gweithredoedd yma. Yn olaf, maen nhw am wybod faint mae'r rhai hynny sy'n gyfrifol am warchod yr amgylchedd yn atebol am eu gwaith. Mae'r bobl yma wedi dangos y ffordd; rŵan, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gamu i fyny a gweithredu.