Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 30 Mehefin 2021.
Mae diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, o'r pwys mwyaf i'n hamcanion hirdymor i wella'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r pleidiau ar draws y Senedd hon yn cytuno bod yn rhaid i ni wrthdroi colli bioamrywiaeth, a gweithio i sicrhau ein bod ar flaen y gad yn fyd-eang yn creu amgylchedd ffyniannus ar gyfer natur, er mwyn darparu safonau byw uwch i bobl Cymru a diogelu ein hamgylchedd.
Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn fyd-enwog oherwydd parc cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog, sy'n rhedeg ar draws cefnen ddeheuol fy etholaeth, a chwm Elan i'r gogledd, sy'n drysor yng nghoron Cymru. Mae'n denu pobl o bob cwr o'r byd—o heicwyr i ferlotwyr, rhedwyr llwybrau a phobl sy'n ymddiddori ym myd natur. Mae cynnal a gwella'r amgylchedd yn hanfodol i'r economi a'r bobl sy'n byw yn fy nghymuned.
Mae rhan gyntaf y ddadl hon yn galw am ofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi hyn at ei gilydd, ond byddaf yn ei chael hi'n anodd ei gefnogi os yw'r targedau a weithredir yn dod ar draul yr economi wledig a swyddi pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Rwyf eisoes yn gweld deddfwriaeth ffosffad benodol gan CNC yn effeithio'n enfawr ar adeiladu tai gwledig. Rhaid inni fod yn hynod ofalus i sicrhau'r cydbwysedd cywir.
Mae'r ddadl hon yn galw am sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mewn llywodraeth fach, ac ni chredaf y dylid gwario symiau enfawr o arian cyhoeddus pan allem weithio dros y ffin gyda Llywodraeth y DU yn fy marn i i reoli'r materion hollbwysig hyn. Nid mater i Gymru yn unig yw gwella a diogelu bioamrywiaeth, ond mater i'r DU gyfan.
Wrth iddynt gloi'r ddadl, rwyf am weld rhesymau cliriach gan y rhai a'i cynigiodd pam y dylid sefydlu'r sefydliad hwn yn annibynnol yng Nghymru, a pham na ellid ei rannu â Llywodraeth y DU mewn dull cydgysylltiedig go iawn o fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy'n pryderu y gallai ddod yn sefydliad arall a fydd ond yn gwastraffu arian ac yn cyflawni fawr ddim pan ellid defnyddio'r arian yn well mewn rhannau eraill o Gymru i wella'r amgylchedd.
Fel y dywedais, rwyf o ddifrif yn awyddus i weithio ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i helpu a gwella bioamrywiaeth a'n hamgylchedd, ac rwy'n croesawu sgyrsiau gyda'r pleidiau gyferbyn i weld sut y gallaf wneud hynny drwy gydol y Senedd hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.