Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 30 Mehefin 2021.
Rwy'n falch iawn o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth y wennol ddu ardderchog. Rwy'n cynrychioli'r etholaeth fwyaf trefol yng Nghymru, ac mae gweld a chlywed gwenoliaid duon yn un o ryfeddodau ein nosweithiau haf. Trelái yng Ngorllewin Caerdydd yw un o'u hoff leoliadau yn yr haf. Nododd arolwg yn 2019 14 o safleoedd nythu yn yr adeiladau hynny. Ni fu modd cynnal arolwg y llynedd, a bydd canlyniadau'r arolwg eleni ar gael ym mis Awst, ond mae gennym un darn o dystiolaeth gan aelod o'r RSPB a ddywedodd, 'Roeddwn yn Nhrelái ddechrau'r wythnos diwethaf, ac roedd llawer iawn o wenoliaid duon yn hedfan uwchlaw'r toeon'. Felly, rwy'n disgwyl i'r niferoedd nythu yno fod yn uchel. Os oes unrhyw waith adnewyddu ar eiddo'r cyngor neu gymdeithasau tai i ddigwydd yno, dylid ystyried gwenoliaid duon sy'n nythu a gosod blychau nythu. Byddai'n drueni mawr pe na bai cynllunwyr dinasoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd yr ardal i wenoliaid duon. Rhaid iddynt gynnwys darpariaeth nythu yn eu gofynion ar gyfer datblygiadau perthnasol.
Er gwaethaf y dystiolaeth gadarnhaol honno, yn y categori oren y mae'r wennol ddu o ran statws cadwraeth ledled y DU. Yng Nghymru, cafodd ei gofnodi gan yr arolwg o adar nythu fel yr aderyn sy'n dirywio gyflymaf o ran ei niferoedd ers 1994. Mae'r niferoedd sy'n nythu yng Nghymru wedi gostwng i dri chwarter—dirywiad cyflymach nag ar draws y DU gyfan. Felly, beth yw'r rhesymau dros y dirywiad hwn? Ystyrir mai'r bygythiad allweddol yw colli safleoedd nythu pan gaiff adeiladau eu hadfer neu eu dymchwel. Anaml y bydd gwaith lliniaru'n digwydd, ac nid wyf yn ymwybodol o asesiadau effaith amgylcheddol sy'n digwydd sy'n rhoi sylw dyledus i hyn. Beth am y diffyg adnoddau bwyd i wenoliaid duon? Mae'n debyg fod y defnydd o bryfladdwyr yn cyfyngu ar niferoedd infertebratau hedegog sy'n fwyd iddynt.
Ar hyn o bryd, mae'r RSPB yn dweud nad oes tystiolaeth fod y dirywiad yn deillio o broblemau ar diroedd gaeafu yn Affrica i wenoliaid duon neu ar hyd eu llwybrau mudo. Gallai hynny newid gyda newid hinsawdd, ond am y tro, yn amlwg, yr hyn sy'n digwydd ym Mhrydain sydd ar fai, oherwydd nid yw rhannau eraill o Ewrop yn gweld yr un dirywiad. Felly, mae gwir angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Rhaid gosod blychau gwenoliaid duon a briciau gwenoliaid duon fel mater o drefn ar bob adeilad newydd addas o uchel. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi bod yn edrych yn rhagweithiol ar hyn ac yn gweithio i'w ymgorffori mewn cyfraith gynllunio, a byddwn yn falch iawn o glywed pryd y gallwn wireddu hynny.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'r argyfwng natur. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn mynd i bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru, ac mae hynny'n wych, ond nid yw datgan argyfwng natur yn mynd i fod yn ddigon. Bydd yn rhaid i bob un ohonom dorchi llewys er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu, rhywbeth sy'n anochel fel arall, ac ni allwn ganiatáu hynny er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, fel y nododd Delyth Jewell eisoes.
Rhaid inni droedio'n fwy ysgafn ar y ddaear hon. Amser cinio, clywais i a nifer o'r Aelodau eraill am y dinistr a achosir nid yn unig i'r tir, ond hefyd i'n cefnforoedd, a gwn fod y Gweinidog wedi mynychu'r digwyddiad hwnnw hefyd. Ar ôl i'r Gweinidog adael, soniais am y rhaglen ddogfen Seaspiracy, sydd ar y rhyngrwyd, ac sy'n gwbl erchyll. Rydym yn dinistrio ein cefnforoedd ym mhob rhan o'r byd, oherwydd trachwant yn y bôn, ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth am hynny. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl fod cytundeb Llywodraeth y DU ar adael yr UE wedi gwneud y tamaid lleiaf o wahaniaeth i ddinistr ein moroedd o amgylch ein hynys, ac mae'n amlwg wedi lleihau ein gallu i berswadio pobl eraill, gwledydd eraill, i gydweithio er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu ar draws ein cefnforoedd.
Gallech ddadlau bod gadael marchnad rydd yr UE, ar ôl cau'r drws yn glep ar allu'r diwydiant pysgota i allforio i'r cyfandir, yn offeryn di-fin ar gyfer adfer bioamrywiaeth a gollwyd, oherwydd, os na allwch eu gwerthu, rydych yn annhebygol o'u pysgota o'r dŵr. Ond nid yw hynny'n gysur i fusnesau bwyd môr Cymru—