Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 30 Mehefin 2021.
Mae canlyniad economaidd pandemig COVID-19 i'w deimlo ledled Cymru, a bydd i'w deimlo ar draws ein heconomi am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, drwy fynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth, gyda chyfres o dargedau clir ar gyfer cyflawni'r gwaith, gallwn greu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ledled y wlad. Drwy fuddsoddi mewn natur, mewn adfer cynefinoedd a sgiliau gwyrdd, gallwn roi hwb i'r gweithlu a'r economi.
Canfu adolygiad diweddar Dasgupta fod ein heconomïau, ein bywoliaeth a'n llesiant i gyd yn dibynnu ar ein hased mwyaf gwerthfawr: natur. Mae ein hymgysylltiad anghynaliadwy â natur yn peryglu ffyniant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Pwysleisiodd yr adolygiad hefyd fod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau, a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Felly, mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cymorth bywyd.
Mae targedau adfer natur yn allweddol i sbarduno newid i economi sy'n gadarnhaol o ran natur. Fel y gwelwn gyda sero net, mae gan dargedau statudol rôl allweddol yn siapio buddsoddiad, nid yn unig ar draws y Llywodraeth ond ar draws sectorau. Mae grŵp Aldersgate, cynghrair o randdeiliaid lluosog sy'n cynnwys rhai o'r busnesau mwyaf yn y DU, wedi galw am reoleiddio amgylcheddol cryfach, wedi'i ategu gan dargedau amgylcheddol uchelgeisiol a chlir, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau yn hirdymor i wneud buddsoddiadau sy'n cynyddu cydnerthedd ac yn creu manteision economaidd a chyflogaeth posibl. Gallai buddsoddi mewn creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr gynnal miloedd o swyddi gwyrdd newydd a fyddai'n helpu i amsugno sioc economaidd y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau cadwraeth natur yng Nghymru i ateb anghenion y dyfodol ac yn y pen draw, i ddarparu'r sylfaen ar gyfer symud tuag at economi carbon isel sy'n gadarnhaol o ran natur.
Mae 150 o randdeiliaid o bob rhan o Gymru wedi datblygu cynnig ar gyfer gwasanaeth natur cenedlaethol, ac mae adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi amcangyfrif y gallai gwasanaeth natur cenedlaethol gefnogi hyd at 7,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru. At hynny, mae buddsoddi mewn atebion ar sail natur yn cynnig elw sylweddol ar fuddsoddiad. Yn ôl adroddiad gan Cambridge Econometrics i'r RSPB, mae pob £1 a fuddsoddir mewn adfer cynefin mawndir a morfa heli a chreu coetiroedd yn sicrhau £4.62, £1.31 a £2.79 o fudd yn y drefn honno. Drwy fuddsoddi mewn atebion ar sail natur, gallem wella ansawdd dŵr ac aer yn sylweddol, hybu ecodwristiaeth, atal llifogydd, storio carbon, a hybu bioamrywiaeth wrth gwrs, ynghyd â manteision eraill dirifedi. Ni allwn fforddio gwahanu ein heconomi oddi wrth natur; mae ein heconomi'n dibynnu arni ac mae'n bodoli o'i mewn.
Er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd go iawn yng Nghymru, rhaid inni fuddsoddi mewn natur. Drwy gyflwyno targedau adfer natur sy'n rhwymo mewn cyfraith i adfer a chreu amrywiaeth eang o gynefinoedd yng Nghymru, gallem gyflawni ar ran yr economi, creu miloedd o swyddi tra'n cyflawni dros natur a dros yr hinsawdd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau sicrhau adferiad gwyrdd, rhaid i fuddsoddi mewn natur fod yn darged blaenoriaethol absoliwt i ni. Byddai'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer gweithredu i adfer natur, tra'n rhoi darlun clir hefyd ar gyfer creu swyddi yn y dyfodol a'r disgwyliadau i'n diwydiannau ein helpu i gyrraedd ein nodau amgylcheddol. Diolch yn fawr.