Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 30 Mehefin 2021.
Ie, rwy'n cynnig y gwelliannau, diolch, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AoS.
Pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd tua dwy flynedd yn ôl, roeddem i gyd yn gobeithio fel Aelodau y byddai hyn yn sbarduno ton o weithredu gartref yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Fodd bynnag, nid oeddem yn disgwyl cyfres o fethiannau ar gychwyn cynnydd o'r fath. Nid oeddem yn disgwyl i argyfwng ac adferiad natur gael eu hanwybyddu. Mae peth o'r diffyg gweithredu hwnnw'n cynnwys y ffaith nad yw capasiti solar ffotofoltäig Cymru ond wedi cynyddu llai nag 1 y cant ers 2019, pum prosiect ynni dŵr newydd yn unig a gomisiynwyd yn 2019, ac mae cynlluniau ynni dŵr preifat bach ar ymyl y dibyn yn awr oherwydd penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl. Er bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddisgwyliad oes byrrach a marwolaethau, hyd at gyfanswm sy'n cyfateb i hyd at 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, rydym i gyd yn gwybod bod y Prif Weinidog a'i Lywodraeth wedi methu cyflawni'r Ddeddf aer glân a addawyd yn y maniffesto. Yn wir, bydd y Gweinidog newydd yn gwybod bod y sector pŵer wedi dominyddu'r gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn benodol, cau gorsaf bŵer Aberddawan. Felly, mae taer angen gweithredu ledled Cymru. Roedd hyd yn oed yr adroddiad ar y rheoliadau newid hinsawdd yng Nghymru 2021 yn nodi
'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'
Cawsom ein hatgoffa o hyn yn ddiweddar, gyda'r trydydd asesiad o risgiau newid hinsawdd yn datgelu
'Mae sgôr frys 26 o risgiau newid hinsawdd yng Nghymru wedi cynyddu.'
Mae'r rhain yn cynnwys y risgiau i rywogaethau tiriogaethol a chynefinoedd o ganlyniad i blâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, gyda bylchau mewn polisi megis diffyg monitro gwell, unrhyw fesurau gwyliadwriaeth ac ymateb cynnar; y risg i amaethyddiaeth a choedwigaeth o ganlyniad i blâu a phathogenau a rhywogaethau goresgynnol; methiant grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru i gyfeirio'n benodol at risgiau penodol sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu gamau ymaddasu i reoli risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â phlâu a phathogenau ar gyfer iechyd anifeiliaid a gedwir; a'r risg i rywogaethau a chynefinoedd morol a physgodfeydd yn sgil amodau hinsawdd sy'n newid, gyda pholisi cyfredol nad yw'n cynnwys camau gweithredu manwl gyda chanlyniadau penodol ar gyfer y sector morol, cynlluniau ar gyfer cynnydd, nac adroddiadau sy'n cydnabod maint y risgiau newid hinsawdd sy'n ein hwynebu.
Yn sgil yr enghreifftiau diweddar iawn hyn, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid inni ddatgan argyfwng natur hefyd bellach. Mae'n rhaid inni wneud hyn, wrth ystyried bod yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf wedi canfod bod y duedd gyffredinol yn dangos dirywiad difrifol. Fel y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi amlygu, gydag ystod mor eang o ysgogiadau, ni allwn fynd i'r afael â'r argyfwng natur fel atodiad i'r argyfwng hinsawdd yn unig. Yn wir, mae gan fesurau newid hinsawdd botensial i niweidio natur, megis plannu coed mewn mannau amhriodol a seilwaith ynni adnewyddadwy wedi'i leoli'n wael.
Felly, rwy'n falch o alw am weithredu penodol ar golli bioamrywiaeth. Mae Plaid Cymru yn gywir; dylem ddilyn penderfyniad Llywodraeth y DU a chyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Yn yr un modd, bydd Aelodau'n gwybod o'r Senedd ddiwethaf fy mod wedi rhoi fy nghefnogaeth yn llawn i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Bydd Llyr Gruffydd, Mike Hedges, Jenny Rathbone a Joyce Watson yn cofio ac yn deall o'n gwaith pwyllgor blaenorol y gellid ystyried pwynt 4 yn un direidus, a bod y bwlch wedi'i achosi yn sgil gohirio trefniadau hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n erfyn arnoch i gefnogi gwelliant 1.
Yn yr un modd, byddai'n aeddfed i bawb ohonom gefnogi gwelliant 2 a gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adferiad natur. Nid yw natur yn ymwybodol o unrhyw ffin ar ynysoedd Prydain. Yn wir, rwy'n obeithiol iawn y gellir cyflawni cydweithrediad domestig o'r fath, a chydweithrediad rhyngwladol o bosibl hyd yn oed eleni, diolch i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15.
Rwyf am ddirwyn i ben drwy gyfeirio at waith Jason Singh, sy'n credu y byddem yn rhoi mwy o sylw i blanhigion pe baem yn gallu eu clywed. Yng Ngerddi Kew, mae wedi creu seinweddau yn seiliedig ar y signalau trydanol a gynhyrchir o fewn planhigion wrth iddynt ymateb i'w hamgylchedd, a'u trosi'n seinweddau arallfydol i ni eu clywed. Mae 'Extinction Songs' yn rhoi llais i natur sy'n galw arnom i weithredu'n gadarnhaol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y datganiad o argyfwng natur heddiw yn sbarduno cresendo o weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, yn hytrach na nodyn drwg, fel y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r argyfwng hinsawdd hyd yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.