Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 30 Mehefin 2021.
A gaf fi ddweud wrth Delyth Jewell, a gyflwynodd y ddadl hon yn enw Siân Gwenllian, gymaint rwy'n croesawu hyn? Ac mae'n teimlo, nid yn unig fel pe bai yna gonsensws trawsbleidiol yn tyfu erbyn hyn, ond bod momentwm go iawn y tu ôl i'r argyfwng newid hinsawdd, yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth hefyd. A dylai hynny fod yn galonogol i'r Gweinidog, a siaradodd yn gynharach heddiw mewn digwyddiad a fynychwyd gan Llyr ac eraill ar y ffordd rydym yn diogelu'r gorau yn ein hamgylchedd morol, yn ogystal â manteisio'n gynaliadwy ar yr amgylchedd morol hefyd. Siaradodd y Gweinidog yn huawdl iawn yn ei sylwadau yn y ddadl honno, ond rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gennym, mor gynnar yn y chweched Senedd, y momentwm cynyddol hwn i fod eisiau gwneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, gan wneud y penderfyniadau caled ac anodd weithiau, a gwelaf fod y Gweinidog, Lee Waters, newydd ymuno â ni ac fe fydd yn gyfarwydd iawn â hynny o'r cyhoeddiadau wythnos yn ôl ar yr adolygiad ffyrdd hefyd: dilyn y dystiolaeth, dilyn y data newid hinsawdd, y data bioamrywiaeth.
Wrth gwrs, mae hefyd yn dod yn sgil cynnig a gyflwynwyd yn y lle hwn ar 15 Mehefin ac a gydlofnodwyd gan Llyr a Janet a Jane Dodds, cynnig a gyfeiriai at y COP15 nesaf—Cynhadledd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol—ac a alwai ar
'Lywodraeth Cymru i gefnogi canlyniad llwyddiannus yn nghynhadledd COP15 drwy egluro ei chefnogaeth i darged byd-eang ar gyfer atal a dechrau gwrthdroi'r broses o golli bioamrywiaeth erbyn 2030 a sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050, ac ymrwymo i adlewyrchu hyn mewn cyfraith ddomestig, gan ymgorffori targedau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.'
Ac wrth gwrs, adlewyrchir hynny'n gryf iawn yn y cynnig sydd o'n blaenau heddiw.
Ond mae maint yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud wedi bod yn hysbys ers cryn dipyn o amser ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gydnabod hefyd. Pan aethant ati i ddiweddaru'r cynllun gweithredu adfer natur, roedd yn cydnabod mewn sylwadau rhagarweiniol fod yn y fframwaith ôl-2020 ar gyfer cynllun strategol y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol hyd at 2050
'ychydig iawn o dargedau Aichi 2020 sydd wedi'u cyflawni a bod bioamrywiaeth yn dal i ddirywio.'
Roedd yn cydnabod:
'Fe wnaeth adroddiad yr Intergovernmental Science-Policy Platform on Biodiversity and Ecosystem Services...yn 2019... ddisgrifio colli bioamrywiaeth fel perygl cynddrwg â'r argyfwng hinsawdd', ac mae hynny wedi'i ymgorffori yn y cynnig hwn yma heddiw. Ac wrth gwrs, tynnodd sylw hefyd at yr angen i fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu ar ôl gadael yr UE. Ac ar wahân i'r agweddau gwleidyddol ar hyn, gwyddom fod risg amlwg o fwlch llywodraethu yn aros, wedi inni adael yr UE. Nid pwynt gwleidyddol yw hwn; mae'n bwynt realiti pragmatig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, ac mae'n cyfeirio at yr angen i newid y ffordd rydym yn ymdrin â rheoli tirwedd yma, drwy ffermio cynaliadwy hefyd, a byddwn yn dod at hynny yn ystod y Senedd hon.
Ond cyfeiriodd hefyd at rai o'r camau gweithredu tymor byr sydd eu hangen ar frys. Mae'n dweud bod angen inni gydlynu'r ymatebion i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth. Mae hynny o fewn y cynnig hwn heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi hyn. Mae'n dweud bod angen inni fynd i'r afael â'r bwlch cyllido ar ôl gadael yr UE ar gyfer mesurau amaeth-amgylcheddol—mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hynny; mae angen inni gefnogi hynny—a bod angen inni ddarparu cyfeiriad gofodol ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth. Nid yw cynnig atebion tameidiog bach neu gynlluniau peilot ac yn y blaen yn ddigon mwyach; mae angen inni wneud hyn ar raddfa fawr ac mewn meintiau gofodol mawr, er mwyn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, ar y tir ac ar y môr yn ogystal, ac archwilio mecanweithiau ariannu newydd a chynaliadwy, ac yn y blaen.
Felly, gwyddom fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n croesawu'r geiriad yn fawr ynghylch cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol, ynghylch canolbwyntio ar Gynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn yr hydref, ynghylch targedau, oherwydd mae targedau'n bwysig. Mae peryglon bob amser gyda thargedau, eich bod yn dewis y targedau anghywir ac yn cael canlyniadau negyddol, ond credaf ein bod yn ddigon clyfar i oresgyn hynny. Rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae ymrwymiad gan y Llywodraeth i'w wneud, ac mae'r gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy'r targedau hynny'n bwysig.
Felly, Weinidog, credaf fod y ddadl hon yn ddefnyddiol—mae'n wirioneddol ddefnyddiol—ac edrychaf ymlaen at eich ymateb, ond teimlaf fod momentwm trawsbleidiol yn awr y tu ôl i'r mathau hyn o newidiadau, sy'n dda i'w weld. Ni ddylid ei ystyried yn fygythiad i'r Llywodraeth; dylid ei ystyried yn gymorth i'r Llywodraeth wneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, a gwneud penderfyniadau anodd iawn weithiau hefyd.