– Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mi rydw i wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Trefnydd, Lesley Griffiths, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Dwi'n siŵr, yr wythnos yma, fod y Prif Weinidog yn ein meddyliau ni i gyd, fe a'i deulu, ar gyfnod anodd iddyn nhw. Felly, y cwestiwn cyntaf heddiw, Joyce Watson.