Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Wel, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddai'n disgwyl i rai penodau o'r ymchwiliad hwnnw, yn amlwg, ganolbwyntio yn benodol ar Gymru. Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud—ni allwch chi ei wneud ar wahân. Mae gormod o gyd-ddibyniaethau i wneud hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gael ymchwiliad y DU gyfan, ac rwy'n credu yn llwyr y bydd y craffu hwnnw yn cyrraedd y lefel sydd ei hangen arnoch chi.