1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fe wnaeth bron i chwarter y bobl sydd wedi dal COVID-19 yn ystod y 12, 15 mis diwethaf ddal y feirws COVID hwnnw mewn ysbyty. Fe wnaeth 21 y cant hefyd ddal COVID mewn cartref gofal. Dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro fod ysbytai yn fannau diogel. Beth sydd wedi mynd o'i le?
Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud, yn amlwg, yw bod llawer gormod o bobl wedi marw o bandemig COVID-19, a bod llawer gormod o deuluoedd a ffrindiau yn galaru ar hyn o bryd. Rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, yn amlwg, fel y mae'r ysbytai a'r cartrefi gofal eu hunain, i gadw'r feirws allan, ond, wrth gwrs, nid yw'n stopio wrth ddrysau ysbytai, nid yw'n stopio wrth ddrysau cartrefi gofal. Nid oes rhwystr i allu gwneud hynny. Ac, os meddyliwch chi am ysbyty, mae fel tref fach, ac mae gennych chi bobl yn croesi honno—y staff, y staff arlwyo, ymwelwyr. Ac, er ein bod ni'n amlwg wedi cael canllawiau ynghylch ymwelwyr, ni allwch chi atal y feirws rhag dod i mewn, yn anffodus.
Roeddwn i'n ofalus iawn gyda fy ngeiriau i ddweud bod y feirws, mewn gwirionedd, wedi cael ei ddal mewn lleoliad ysbyty. Rwy'n derbyn y pwynt y ceir croesi llwybrau mewn ysbytai, ond dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro bod mesurau yn cael eu cymryd. Yn wir, dywedodd y Gweinidog iechyd wrthyf fy mod i'n codi bwganod pan ddywedais ei fod allan o reolaeth mewn rhai ysbytai. Mewn rhai byrddau iechyd, roedd un o bob tri chlaf yn dal feirws COVID yn yr ysbyty. Nawr, penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan Weinidogion Llywodraeth Cymru oedd y rhain. Siawns nad oes angen i'r penderfyniadau hynny gael eu profi erbyn hyn mewn ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru ac nid cael eu eu colli mewn ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio eich egni o fewn y Llywodraeth i ymgyrchu dros ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan fel y gellir edrych ar yr union faterion hyn a'u hunioni yma yng Nghymru?
Na, wnaf i ddim. Fe fyddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud droeon—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn ei atebion i chi yn y Siambr wedi dweud hyn—ei fod wedi cytuno i ymchwiliad pedair gwlad y DU. Mae wedi cael trafodaethau gydag uwch Weinidogion—Prif Weinidog y DU ei hun rwy'n credu—yn Llywodraeth y DU. Pe byddem ni'n cael ein hymchwiliad ein hunain, ni fyddem ni'n gallu edrych ar gynifer o'r rhyngddibyniaethau sy'n bodoli ar draws y pedair gwlad o ran COVID—felly, os meddyliwch chi am brofion, os meddyliwch chi am frechlynnau, os meddyliwch chi am gyfarpar diogelu personol, os meddyliwch chi am y cyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer COVID. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn gwbl eglur ei fod eisiau cymryd rhan yn yr ymchwiliad pedair gwlad hwnnw.
Mae'n rhaid i mi ddweud mai dyna'r penderfyniad anghywir, Gweinidog. Dro ar ôl tro—a byddwn ni'n ei glywed yn y datganiad deddfwriaethol y prynhawn yma—mae'r Llywodraeth eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud yma yng Nghaerdydd, cael eu lleoli yma yn y Senedd hon, ac ym Mharc Cathays, lle mae'r Llywodraeth wedi'i lleoli. Yn y fan yma, lle mae penderfyniadau allweddol wedi arwain, yn drasig, at bobl yn colli eu bywydau mewn ysbytai oherwydd heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai—roedd 1 o bob 3 o bobl mewn rhai byrddau iechyd yn dal feirws COVID mewn ysbyty, oherwydd y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Bydd pobl yn rhyfeddu nad ydych chi'n barod i wneud eich hun yn destun craffu. Rwy'n annog y Llywodraeth, ac rwy'n eich annog chithau yn gryf iawn, i wneud yn siŵr bod elfen Gymreig gref yn yr ymchwiliad y DU gyfan, ond yn bwysicach na hynny, ein bod ni'n cael ymchwiliad Cymru gyfan i brofi'r penderfyniadau gweinidogol hyn, ac i dynnu sylw hefyd at y llwyddiannau hefyd, fel y cynllun brechu. Mae'n destun gofid mawr nad ydych chi'n fodlon torchi eich llewys gweinidogol i wneud i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw yng Nghymru ddigwydd. Fe'i gadawaf i chi unwaith eto i ddweud ein bod ni angen ymchwiliad cyhoeddus Cymru gyfan i ymchwilio i'r digwyddiadau trasig hyn sydd wedi arwain at gymaint o achosion o heintiau a ddaliwyd mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru.
Wel, rwy'n anghytuno yn llwyr â chi. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddai'n disgwyl i rai penodau o'r ymchwiliad hwnnw, yn amlwg, ganolbwyntio yn benodol ar Gymru. Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud—ni allwch chi ei wneud ar wahân. Mae gormod o gyd-ddibyniaethau i wneud hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gael ymchwiliad y DU gyfan, ac rwy'n credu yn llwyr y bydd y craffu hwnnw yn cyrraedd y lefel sydd ei hangen arnoch chi.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi barhau â'r thema honno, a chloddio ychydig yn ddyfnach os caf i. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru yn unig. Mae eich Llywodraeth—ac rydych chi wedi ei gadarnhau nawr—wedi dewis cael pennod neu benodau yn trafod Cymru mewn ymchwiliad y DU gyfan. Rwy'n credu yn gwbl onest bod hynny yn eich gadael yn agored i'r cyhuddiad o osgoi craffu. Os ydych chi'n cymryd cyfrifoldeb, mae'n rhaid i chi fod yn barod i gael eich barnu ar sail eich gweithredoedd, da a drwg. Nawr, wrth gwrs, ceir y mater hefyd bod Boris Johnson ei hun yn San Steffan yn osgoi craffu wrth betruso ynghylch pryd i ddechrau ymchwiliad y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw ar frys i sefydlu'r ymchwiliad hwnnw ar gyfer y DU gyfan. Mynnodd Syr Robert Owen, y barnwr a gadeiriodd yr ymchwiliad cyhoeddus i farwolaeth Alexander Litvinenko, yn ddiweddar bod angen i'r gwaith ddechrau ar unwaith, a bod adroddiad sy'n cael ei oedi am amser maith yn golygu nad yw'n cyflawni swyddogaeth ddefnyddiol. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Rwy'n credu bod angen cynnal yr ymchwiliad yn weddol fuan. Nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu; rwy'n siŵr y bydd y sylw yn gadarn iawn ar bob un o'r pedair gwlad. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i ychwanegu unrhyw beth o ran barn y Prif Weinidog at yr hyn a ddywedais yn fy atebion i Andrew R.T. Davies. Yn amlwg, yng Nghymru, rydym ni wedi cynnal adolygiad. Mae'r Gweinidog iechyd wedi arwain, o fewn ei hadran hi—neu mae swyddogion wedi arwain o fewn ei hadran hi—pan edrychwn ni ar yr hyn a ddigwyddodd yn y don gyntaf, ac yna yn amlwg yn yr ail don ar hyn o bryd. Ond nid wyf i'n credu, am y rhesymau yr wyf i wedi eu datgan eisoes, bod ymchwiliad penodol i Gymru—. Ond yn sicr nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu.
Rydych chi ei eisiau yn weddol fuan, ond gadewch i mi fod yn eglur: trwy wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydych chi'n cytuno i bob pwrpas â'r oedi hwnnw, ac mae'n anochel y bydd y sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn gwanhau o geisio cyfeirio'r sylw hwnnw, gyda'r un manylder fforensig, ledled y DU gyfan. Mae angen i ni ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ddeuddydd yn ôl, ymunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol â'r GMB ac eraill i alw ar Lywodraeth yr Alban i lansio ymchwiliad ar wahân ar gyfer yr Alban—yr un egwyddorion yn y fan yna. Pe byddai galwadau am ymchwiliad ar wahân ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud gan gyrff blaenllaw sydd â'r genhadaeth o gynrychioli buddiannau gweithwyr iechyd a gofal a chleifion yma, beth fyddai eich neges iddyn nhw?
Fel y dywedais, nid wyf i'n credu y gallaf i ddweud unrhyw beth arall. Fe'i gwnaed yn eglur iawn gan y Prif Weinidog ei fod yn credu mai ymchwiliad y DU gyfan sydd orau, ar gyfer y rhyngddibyniaethau yr wyf i newydd eu hesbonio. Nid wyf i'n credu y gallwch chi byth gyhuddo'r Prif Weinidog, nac unrhyw un arall o'm cyd-Weinidogion, o beidio â bod yn agored i graffu. Eisteddasom drwy'r llynedd. Pan nad oedd Llywodraeth y DU yn eistedd, roeddem ni'n eistedd; roeddech chi'n gallu craffu ar bob un Gweinidog. Rwy'n tybio, pan fydd yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal—a gwn fod y Prif Weinidog yn credu na ddylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei roi o'r neilltu; yn amlwg, mae angen atebion ar bobl. Ond ar hyn o bryd mae pwyslais pob Llywodraeth ar ymdrin â'r pandemig. Rydym ni'n gwybod beth sy'n dod i lawr y ffordd, onid ydym ni? Rydym ni'n gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r feirws ar hyn o bryd. Felly, mae arnaf i ofn nad oes gen i unrhyw beth arall i'w ychwanegu ynghylch ymchwiliad pedair gwlad y DU y mae'r Prif Weinidog wedi cytuno iddo.
Nid oes dim byd o'i le ar gael ymchwiliad yn edrych ar sut yr oedd y rhyngddibyniaeth yn gweithio. Rydych chi'n dweud na allaf i gyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi craffu ar hyn. Gadewch i mi ei gwneud hi'n gwbl eglur: rwy'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi'r craffu mwyaf trwyadl posibl ar hyn drwy wrthod ymchwiliad Cymru yn unig. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yr ydym ni wedi clywed cyfeiriadau atyn nhw eisoes, am y ffaith fod chwarter y marwolaethau COVID yng Nghymru o ganlyniad i heintiau a ddaliwyd yn bendant neu fwy na thebyg yn yr ysbyty—siawns bod hynny ar ei ben ei hun yn deilwng o ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.
Yn gynnar yn y pandemig, gofynnais i Lywodraeth Cymru wrando ar bledion gan feddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru i gyflwyno trefn gwisgo masgiau eang mewn ysbytai—galwadau a wrthwynebwyd, yn rhyfeddol, ar y pryd. Wel, heddiw, bydd rhai o'r un meddygon a gweithwyr iechyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru mewn llythyr agored sefydlu ymchwiliad ymdrin â COVID penodol i Gymru ar unwaith, er mwyn craffu yn briodol ar benderfyniadau a wnaed fel y gellir dysgu gwersi nawr. Mae eich Llywodraeth wedi dweud, a hynny'n briodol, y byddwch chi'n dilyn yr wyddoniaeth wrth wneud penderfyniadau. A wnewch chi nawr ddilyn cyngor y meddygon hyn?
Nid wyf yn ymwybodol o'r llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato. Rwy'n tybio ei fod wedi ei gyfeirio at y Prif Weinidog a bydd y Prif Weinidog yn amlwg yn ymateb i hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod y GIG yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed drwy gydol y pandemig hwn, ac rydym ni fel Llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gynorthwyo—os meddyliwch chi am y miliynau ar filiynau ar filiynau o ddarnau o gyfarpar diogelu personol y gwnaethom ni sicrhau eu bod nhw yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi gofal. O ran 'A wnawn ni ddilyn cyngor meddygon Cymru?', dydw i ddim yn gwybod pwy yw'r meddygon hyn, nid wyf i'n gwybod dim am y llythyr hwnnw, ond rwy'n gwybod, fel bob amser, y bydd y Prif Weinidog yn ymateb i unrhyw lythyr y mae'n ei dderbyn.