Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Gingerbread yn awgrymu bod y pandemig wedi taro rhieni sengl yn galed iawn—colli gwaith ac incwm, addysg yn y cartref, a cholli gofal plant a chymorth gofalu. Fel arfer, gweithwyr yw'r rhain sydd mewn gwaith cyflog isel a rhan-amser yn bennaf ac yn y diwydiannau hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig—144,000 o deuluoedd unig riant yng Nghymru, gydag 118,000 ohonynt yn deuluoedd unig fam. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i deuluoedd unig riant ledled Cymru yn rhan o raglen adfer yn sgil COVID y Llywodraeth? Diolch.