Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch. Rydym ni'n cydnabod efallai y bydd rhieni—ac mae hynny yn cynnwys unig rieni, wrth gwrs—a'u plant angen cymorth ychwanegol yn dilyn pandemig y coronafeirws. Gall y math o gymorth sydd ei angen amrywio, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â'i wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd lleol fel y gellir ei gyfeirio at y cymorth a'r cyngor cywir yn ardal ei awdurdod lleol. Mae gwefan ein hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo' hefyd yn rhoi cyngor a chymorth, ac mae'n gallu dweud wrth bobl ble y gallan nhw fynd i gael rhagor o wybodaeth. Mae hynny yn cynnwys cymorth sydd ar gael yn genedlaethol drwy linellau cymorth a chymorth ar-lein, fel Parent Talk Cymru a Family Lives.