Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Gweinidog, byddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd y sector twristiaeth treftadaeth i'r gogledd. Mae'n hanfodol bwysig mewn nifer o ardaloedd yn Ne Clwyd, gan gynnwys yn Llangollen ac ym Mrymbo. Gweinidog, a allech chi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y sector twristiaeth treftadaeth fel y gellir cynnal swyddi yn y dyfodol ac y gellir creu mwy o swyddi?