1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2021.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ56750
Diolch. Cyhoeddwyd ein cynllun adfer twristiaeth, 'Dewch i Lunio'r Dyfodol', yn gynharach eleni. Mae'r cynllun yn amlinellu dull o weithio mewn partneriaeth i ailadeiladu dyfodol cadarn i'n heconomi ymwelwyr. Bydd pecynnau cymorth ariannol a dychwelyd at farchnata rhagweithiol Croeso Cymru yn cynorthwyo'r sector drwy'r misoedd nesaf.
Dwi'n falch eich bod chi'n sôn am sicrhau dyfodol cydnerth i'r sector, oherwydd wrth gwrs mae twristiaeth yn sector gwbl allweddol i ni yng ngogledd Cymru, fel mae e mewn rhannau eraill, wrth gwrs. Ond mae cael y cydbwysedd cywir yna rhwng twristiaid sy'n dod â budd i'n cymunedau ni, a gordwristiaeth, sy'n dod ag effeithiau negyddol, lle mae'r isadeiledd lleol yn methu dygymod â'r galw, yn rhywbeth gwbl allweddol. Ar ôl gweld effaith tipyn o ordwristiaeth mewn rhai ardaloedd o ogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cael y drafodaeth ehangach yna ynglŷn â beth rŷm ni eisiau ei gael allan o dwristiaeth yn bwysig—y sgwrs genedlaethol ynglŷn ag at fudd pwy ac at ba bwrpas ŷn ni eisiau tyfu'r sector. Felly, a fyddech chi'n cytuno â fi ei bod hi'n bwysig cynnal y drafodaeth honno cyn mynd ati i greu parc cenedlaethol newydd arall yng ngogledd Cymru a allai, wrth gwrs, arwain at ailadrodd rhai o'r problemau o safbwynt gordwristiaeth rŷm ni eisoes yn eu gweld yn y gogledd?
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am gydbwysedd. Dylwn i ddweud bod y parc cenedlaethol newydd ym maniffesto'r Blaid Lafur y cawsom ni ein hethol ar ei sail ym mis Mai. Mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n siŵr y bydd Llyr yn cytuno â hyn, yn sicr ar garreg y drws, roedd yn rhywbeth yr oedd pobl eisiau sôn amdano, felly rwy'n credu bod pobl yn teimlo cyffro ynglŷn ag ef. Ond rydych chi yn llygad eich lle; mae angen i ni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Yn sicr, rwy'n credu, yr haf diwethaf, ac efallai ar ddechrau'r pandemig hefyd, fe wnaethom ni weld—. Yn Eryri, er enghraifft, gwn fod problemau yn ymwneud â phobl a oedd eisiau cerdded. Roedd yn bwysig iawn i ni gael yr ymgyrch ymddygiadol honno, Addo. Mae'r sector wedi ei chroesawu yn fawr i annog ymddygiad cyhoeddus cadarnhaol, fel y gallwn ni ailagor ein sector twristiaeth mewn ffordd ddiogel. Rwy'n credu y bydd hynny hefyd yn cefnogi twristiaeth gyfrifol wrth i ni ddod i gyfnod yr haf nawr. Ac, fel y dywedais, mae gennym ni ymgyrchoedd marchnata rhagweithiol Croeso Cymru. Mae hwythau wrth law i gefnogi'r sector dros y misoedd nesaf hefyd.
Gweinidog, un o'r pryderon a godwyd gyda mi gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch fu'r diffyg cymorth ariannol i'r busnesau hynny y mae'n ofynnol i'w staff hunanynysu—busnesau bach dros ben yn aml. Er enghraifft, roedd gen i dafarn yn fy etholaeth fy hun yn ddiweddar lle y profodd un aelod o staff yn bositif ar gyfer y coronafeirws ac, o ganlyniad, cafodd bob aelod o'r staff neges gyswllt wedyn i ddweud bod angen iddyn nhw hunanynysu. Roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i'r busnes hwnnw gau wedyn drwy gydol y cyfnod hunanynysu ac nad oedd ganddo incwm. Roedd yn rhaid iddo ganslo ei holl archebion. Ac eto, nid oes cymorth ariannol ar gael i fusnesau o dan yr amgylchiadau hynny. Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i greu rhyw fath o rwyd diogelwch i fusnesau sydd yn y sefyllfa benodol honno, yn enwedig y busnesau bach hynny fel gweithredwyr twristiaeth a busnesau lletygarwch yn fy etholaeth i yr effeithiwyd arnyn nhw fel hyn?
Rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt pwysig iawn, oherwydd rydym ni eisiau i bobl hunanynysu, onid ydym ni, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu eu cynorthwyo cystal ag y gallwn. Yn amlwg, mae busnesau'r gogledd wedi cael swm sylweddol o gyllid, yn enwedig o'r gronfa cadernid economaidd unigryw i Gymru. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau y mae Gweinidog yr Economi yn eu cael ynglŷn â hynny, ond rwy'n siŵr ei fod yn y Siambr i glywed eich sylwadau.
Gweinidog, byddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd y sector twristiaeth treftadaeth i'r gogledd. Mae'n hanfodol bwysig mewn nifer o ardaloedd yn Ne Clwyd, gan gynnwys yn Llangollen ac ym Mrymbo. Gweinidog, a allech chi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y sector twristiaeth treftadaeth fel y gellir cynnal swyddi yn y dyfodol ac y gellir creu mwy o swyddi?
Diolch. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth ddiwydiannol eithriadol sydd gennym ni yn ein rhan ni o'r gogledd-ddwyrain ac ar draws y gogledd i gyd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod swyddogion Cadw wedi bod yn rhan allweddol o'r grŵp sydd wedi bod yn edrych ar yr enwebiad ar gyfer tirwedd lechi'r gogledd-orllewin. Mae wedi cael ei enwebu fel safle treftadaeth y byd ac rwy'n deall y bydd penderfyniad naill ai yn ddiweddarach y mis hwn neu'n sicr y mis nesaf. Os bydd UNESCO o'r farn ei fod, bydd yn llwyddiannus iawn gan ymuno â thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn eich etholaeth eich hun fel ail safle diwydiannol treftadaeth y byd, ac rydym ni'n sicr yn dymuno'n dda iddyn nhw gyda hynny.
O ran Brymbo, rwyf i wedi ymweld â safle treftadaeth y gwaith haearn—unwaith eto, mae hwnnw yn eich etholaeth chi—ac rydym ni wedi bod yn rhan o drafodaethau clos ynghylch caniatáu rhyddhau cyllid i'w cefnogi. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol ar adnoddau addysgol i hyrwyddo'r dreftadaeth ddiwydiannol yn Nyffryn Maes Glas, ychydig dros y ffin oddi wrthym ni yn sir y Fflint.