Y Sector Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:53, 6 Gorffennaf 2021

Dwi'n falch eich bod chi'n sôn am sicrhau dyfodol cydnerth i'r sector, oherwydd wrth gwrs mae twristiaeth yn sector gwbl allweddol i ni yng ngogledd Cymru, fel mae e mewn rhannau eraill, wrth gwrs. Ond mae cael y cydbwysedd cywir yna rhwng twristiaid sy'n dod â budd i'n cymunedau ni, a gordwristiaeth, sy'n dod ag effeithiau negyddol, lle mae'r isadeiledd lleol yn methu dygymod â'r galw, yn rhywbeth gwbl allweddol. Ar ôl gweld effaith tipyn o ordwristiaeth mewn rhai ardaloedd o ogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cael y drafodaeth ehangach yna ynglŷn â beth rŷm ni eisiau ei gael allan o dwristiaeth yn bwysig—y sgwrs genedlaethol ynglŷn ag at fudd pwy ac at ba bwrpas ŷn ni eisiau tyfu'r sector. Felly, a fyddech chi'n cytuno â fi ei bod hi'n bwysig cynnal y drafodaeth honno cyn mynd ati i greu parc cenedlaethol newydd arall yng ngogledd Cymru a allai, wrth gwrs, arwain at ailadrodd rhai o'r problemau o safbwynt gordwristiaeth rŷm ni eisoes yn eu gweld yn y gogledd?