Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch, Drefnydd. Fel dŷch chi wedi sôn yn barod, fferyllwyr oedd yr unig broffesiwn gofal sylfaenol a gadwodd eu drysau’n agored yn ystod y pandemig yma. Roedd hyn, felly, yn golygu asesiad wyneb-yn-wyneb yn ystod y pandemig. Bellach, mae ymgynghori wyneb-yn-wyneb gan fferyllwyr cymunedol wedi cael ei normaleiddio yng ngwaith y gwasanaeth iechyd. Oni ddylai’r cytundeb fferyllwyr newydd sy’n cael ei negodi gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd adlewyrchu’r sefyllfa newydd yma yn llawn?